Ewch i’r prif gynnwys

Astudio dramor

Mae astudio dramor yn rhoi'r cyfle i chi ystyried safbwyntiau ffres o ran eich astudiaethau a'r byd ehangach.

Byddwch yn datblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy fel hyblygrwydd, rheoli amser, datrys problemau a chyfathrebu rhyngddiwylliannol.

Efallai cewch chi'r cyfle i wella eich sgiliau iaith, neu ddysgu iaith dramor newydd. Drwy gwrdd â phobl o gefndiroedd amrywiol, byddwch yn ffurfio cyfeillgarwch a rhwydweithiau gall bara am oes.

Unwaith i chi ddechrau eich astudiaethau gyda ni, gallwch wneud cais i astudio un o'n cyrsiau anrhydedd sengl neu gydanrhydedd fel rhai pedair blynedd, gyda'r dewis i astudio dramor yn eich trydedd flwyddyn.

Dewis eang o leoliadau

Mae ein sefydliadau partner yn cwmpasu cyfandiroedd. Mae lleoliadau'n amrywio o flwyddyn i flwyddyn, gydag esiamplau diweddar wedi eu rhestru isod.

Asia

Awstralasia

Ewrop

Gogledd America

Sut mae modd astudio dramor fel rhan o'ch gradd?

Gallwch wneud cais i dreulio eich trydedd flwyddyn dramor gydag ein rhaglen gradd pedair blynedd estynedig ag opsiwn i Astudio Dramor. Golyga hyn eich bod yn astudio am dair blynedd yng Nghaerdydd a blwyddyn dramor, ar ôl eich ail flwyddyn, cyn dychwelyd i Gaerdydd ar gyfer eich blwyddyn terfynol.

Cyllid

Mae cyllid yn amrywio yn dibynnu ar y lleoliad rydych yn ei ddewis. Os ydych yn dewis astudio yn Ewrop, gallwch dderbyn grant misol o'r Cyngor Prydeinig o dan y cynllun Erasmus+. Ar gyfer lleoliadau eraill efallai gallwch dderbyn bwrsariaeth wrth Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang y Brifysgol i gyfrannu at eich costau.

Cyflwyno ac asesu

Bydd cyflwyno ac asesu yn ystod eich cyfnod yn astudio dramor yn dilyn ymarfer arferol y sefydliad partner. Bydd y wybodaeth hon ar gael ar wefan y sefydliad partner a bydd yn cael ei drafod gyda'r cydlynydd Erasmus a Chyfnewid ar gyfer eich rhaglen wrth gynllunio eich astudiaeth dramor.

Bydd iaith eich astudiaeth hefyd yn dibynnu ar y sefydliad byddwch yn ei fynychu yn ogystal â'ch sgiliau iaith eich hun. Bydd hyn hefyd yn dylanwadu ar eich dewisiadau astudio dramor.

Ar gyfer rhaglenni pedair blynedd gydag astudiaeth dramor, bydd y cyfnod astudio dramor yn cyfrannu at 10% o'ch gradd derfynol.

Cysylltu

Cyfnewid SHARE