Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddiaeth
Mae crefydd yn rhan o brofiad y ddynolryw, o’i dechreuadau hyd heddiw.
Drwy grefydd y mae’r rhan fwyaf o ddiwylliannau wedi mynegi eu dealltwriaeth o bwrpas bywyd, a’i ddefnyddio’n sylfaen ymddygiad personol a chymdeithasol pobl.
A chithau’n fyfyriwr Astudiaethau Crefyddol, byddwch yn cael y cyfle i ymchwilio i’ch hanes a diwylliant crefyddol eich hunain, a phobl eraill, ac i rai o gwestiynau sylfaenol bodolaeth. Mae crefydd yn yr Hen Fyd Diweddar, Crefyddau Asiaidd a'r holl brif grefyddau cyfoes – Bwdhaeth, Cristnogaeth, Hindŵaeth, Islam ac Iddewiaeth ymhlith eraill - ar gael. Caiff pob un ei ddysgu gan academyddion sy'n dod â'u hymchwil i'r ystafell ddosbarth, gan ddefnyddio testun, barddoniaeth, celf, ffilm, bywgraffiad, drama a gwaith maes.
Enw’r radd | Côd UCAS |
---|---|
Astudiaethau Crefyddol ac Athroniaeth (BA) | VV65 |
Crefydd a Diwinyddiaeth (BA) | V6V6 |
Archwilio'r Gorffennol
Dyma un o gyfres o lwybrau dilyniant hyblyg a fforddiadwy at raddau ym maes Hanes, Archaeoleg a Chrefydd i’r rheini sy'n dychwelyd i fyd addysg. Gweld rhagor am Lwybrau at radd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yma, cewch wybod sut i wneud cais, beth yw ein meini prawf derbyn a chael cyngor ynghylch ysgrifennu datganiad personol.