Ewch i’r prif gynnwys

Archaeoleg a Chadwraeth

Fideo Archaeoleg a Chadwraeth

Mae graddau Archaeoleg y Brifysgol yn darparu lefel o hyfforddiant, sgiliau a gwybodaeth sy’n cael ei pharchu ym myd archaeoleg broffesiynol a bydd y rhain o gymorth ichi pan fyddwch chi’n gwneud cais am astudiaethau ôl-raddedig, neu gyflogaeth ym maes archaeoleg a sector treftadaeth.

Byddwch chi’n cael eich addysgu gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol, a hynny mewn canolfan sydd ag enw da ers cryn amser am ymchwil yn Ynysoedd Prydain, Ewrop, yr Aifft a dwyrain Môr y Canoldir.

Rydyn ni’n cynnig profiad yn y gweithle i’n myfyrwyr yn sgil ein lleoliadau pedair wythnos wedi’u hariannu i wneud gwaith cloddio neu weithio mewn amgueddfa a byd treftadaeth. Bydd myfyrwyr yn gwella eu sgiliau cyfathrebu drwy weithio gydag ysgolion, amgueddfeydd, busnesau a grwpiau cymunedol yn rhan o'n gweithgareddau arloesol sy’n ymgysylltu â'r cyhoedd.

Archaeoleg

Drwy astudio archaeoleg, gallwch chi ddatgelu bywydau pobl y gorffennol: boed yn ddeiet neu gredoau; yr offer y byddai pobl yn eu defnyddio neu'r tai roedden nhw'n byw ynddyn nhw.

Mae ein myfyrwyr yn ennill ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy, gan alluogi ein graddedigion i gyfleu syniadau cymhleth, dehongli data, gweithio mewn timau a rheoli adnoddau yn effeithiol ac yn ddyfeisgar.

Caiff myfyrwyr archaeoleg wneud cais i Gronfa Goffa Cyril Fox am grantiau teithio ac ymchwil.

Cyrsiau amser llawn

Archwilio'r Gorffennol

Dyma un o gyfres o lwybrau dilyniant hyblyg a fforddiadwy at raddau ym maes Hanes, Archaeoleg a Chrefydd i’r rheini sy'n dychwelyd i fyd addysg. Gweld rhagor am Lwybrau at radd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cadwraeth

Mae cadwraeth yn helpu gwrthrychau diwylliannol a threftadaeth i ‘adrodd eu hanesion’, nawr ac yn y dyfodol. A chithau’n fyfyriwr cadwraeth, byddwch chi’n cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â'ch sgiliau ymarferol sy'n ehangu i ddiogelu'r gorffennol, a hynny mewn labordy.

Gan fod cyn-fyfyrwyr yn gweithio yn y sector ar draws y byd, mae gan gadwraeth ym Mhrifysgol Caerdydd enw rhagorol am ei chyrsiau ar lefel israddedig ac ôl-raddedig ac am ei chysylltiadau â’r sector treftadaeth gartref a thramor.

Mae ein myfyrwyr yn mynd yn fedrus wrth ofalu am arteffactau diwylliannol a threftadaeth, eu hatgyweirio a’u diogelu ac yn ddeheuig wrth ddewis y dull priodol o blith y pecyn llawn o ddulliau a addysgir i ddiogelu ein gorffennol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Cyrsiau amser llawn