Ewch i’r prif gynnwys

Israddedig

Rydym wedi ymroi i astudio'r gorffennol a chredoau o'r cyfnod cynhanes hyd y cymdeithasau cyfoes.

Rydym yn canolbwyntio ar y prif ddisgyblaethau canlynol: Hanes yr Henfyd, Archeoleg, Cadwraeth ac Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddol.

Mae dros 300 o israddedigion yn ymuno â ni bob blwyddyn o'r DU a thu hwnt.

Hanes yr Henfyd

Hanes yr Henfyd

Rydym yn trin a thrafod gwareiddiadau hynafol o Wlad Groeg a Rhufain i Fesopotamia, Iran a thu hwnt, o gwymp Teyrnas Newydd yr Aifft i dwf Islam.

Archaeoleg a Chadwraeth

Archaeoleg a Chadwraeth

Mae ein llwybrau’n adlewyrchu arbenigedd ein hymchwil: Prydain Gynhanesyddol, Cymdeithas a Diwylliant yr Oesoedd Canol Cynnar, y cyfnod Neolithig Ewropeaidd a'r cyfnod Celtaidd Cynnar.

Hanes

Hanes

Gan gynnwys y cyfnod Canoloesol i ddiwedd yr Ugeinfed ganrif, gan roi cyfle i astudio hanes gwahanol rannau o’r byd.

Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddiaeth

Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddiaeth

Astudiaeth o hanes a diwylliant crefyddol, gan archwilio rhai o gwestiynau sylfaenol bodolaeth.

Astudio dramor

Astudio dramor

Gall myfyrwyr israddedig ddewis i astudio dramor fel rhan o’u rhaglen radd, cyfle sy’n gallu cynnig persbectif ffres ar eich astudiaethau a’r byd ehangach.