Ewch i’r prif gynnwys

Hanes

Bodlonwch eich chwilfrydedd am hanes a dyfnhau eich gwybodaeth o’r cysyniadau allweddol. Cyfunir hyn i gyd gyda’r posibilrwydd o archwilio treftadaeth, gweithredu cymunedol ac opsiynau o ran lleoliadau.

Mae ein gradd MA Hanes arloesol yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect ymgysylltu â'r cyhoedd sy’n cael effaith ar y byd go iawn, neu gynnal eich ymchwil wreiddiol eich hun ar bwnc o'ch dewis ar y llwybr traethawd hir traddodiadol.

Mae ein harbenigedd yn gyfoethog, eang a rhyngwladol ac yn cynnwys arbenigedd o ran hanes Prydain, Cymru, Ewrop (gan gynnwys Canol a Dwyrain Ewrop), Asia a Gogledd America.

Yn ogystal â'n harbenigedd ymchwil, mae ein gwaith ymgysylltu penigamp yn adeiladu cysylltiadau positif mewn cymunedau, y sector treftadaeth, ac ysgolion, drwy brosiectau sy'n torri tir newydd  o ran ymgysylltiad megis ein prosiect CAER Bryngaer Gudd.

Mae’r graddau ymchwil PhD a MPhil hefyd yn agored i unrhyw un sy’n gobeithio arbenigo neu ddilyn gyrfa yn y byd academaidd.