Ewch i’r prif gynnwys

Archaeoleg a Chadwraeth

Caiff arbenigedd ein  gwaith ymchwil ei adlewyrchu gan ein hystod o raglenni gradd meistr Archaeloeg a Chadwraeth.

Archaeoleg

Mae ein rhaglenni ôl-raddedig a addysgir yn cwmpasu ystod eang o gyfnodau a phynciau. Mae'r modiwlau ar gael o fewn y rhaglenni hyn yn adlewyrchu ein harbenigeddau ymchwil mewn Gwyddoniaeth Archaeolegol, Prydain ac Ewrop Gynhanesyddol, Cymdeithas a Diwylliant Cynnar yr Oesoedd Canol, ac archaeoleg Glasurol.

Mae ein rhaglenni'n cynnig y cyfle i chi wella a datblygu eich sgiliau archaeolegol ac academaidd.

Gall fyfyrwyr Archaeoleg wneud cais ar gyfer Cronfa Goffa Cyril Fox ar gyfer grantiau ymchwil a theithio.

Cadwraeth

Gydag enw da rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil, bydd astudio Cadwraeth gyda ni yn cynnig ymagwedd ymarferol o dan oruchwyliaeth ofalus arbenigwyr yn y maes.

Fel rhan o'ch astudiaeth, bydd eich gwaith ymarferol gyda chyfarpar llawn yn ein labordai  yn datblygu eich ystod o sgiliau, ond hefyd yn gwneud gwahaniaeth parhaol i ddyfodol gwrthrychau gwerthfawr sy'n dod o ystod o gasgliadau hanesyddol.

Byddwch yn ymuno â chymuned glos, yn rhan o grŵp o gynfyfyrwyr ehangach sy'n gweithio yn y sector treftadaeth ledled y byd.

Mae rhaglenni ymchwil PhD a MPhil hefyd ar gael ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno arbenigo ymhellach neu ddilyn gyrfa academaidd.