Ewch i’r prif gynnwys

Cronfa Goffa Cyril Fox - grantiau Archaeoleg

Mae Cronfa Goffa Cyril Fox yn cefnogi grantiau teithio ac ymchwil ar gyfer myfyrwyr Archaeoleg.

Mae Cyril Fox (1882-1967) yn un o archaeolegwyr enwocaf Cymru a gyfrannodd yn sylweddol i archaeoleg Brydeinng yn ystod ei amser yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yn gyntaf fel Gwarcheidwad Archaeoleg (1924-26), cyn dod yn Gyfarwyddwr yr Amgueddfa (1926-48). Penodwyd ef yn wreiddiol mewn swydd ar y cyd â Choleg y Brifysgol, Caerdydd, lle'r oedd yn darlithio am dipyn.

Sir Cyril and Lady Aileen Fox on a visit to Ireland in 1952
Sir Cyril and Lady Aileen Fox on a visit to Ireland in 1952. © George Fox

Sefydlwyd Cronfa Goffa Cyril Fox (roedd 'Cronfa Fox' yn enw arall amdano) gan ei gweddw, Y Foneddiges Aileen Fox, er mwyn rhoi grantiau teithio i fyfyrwyr Archaeoleg Prifysgol Caerdydd (olynydd Coleg y Brifysgol, Caerdydd) i astudio deunydd archaeolegol yn y DU a Gorllewin Ewrop (casgliadau amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau ac ati), ac i'w galluogi nhw i wneud gwaith maes (cloddio neu arolwg maes).

Roedd y rhain yn weithgareddau oedd Syr Cyril ei hun yn ymarfer ac yn ystyried i fod yn hollbwysig os am fod yn archaeolegydd.

Gwobrau a pwy sy'n gymwys

Gall fyfyrwyr Archaeoleg sy'n cwrdd a'r meini prawf canlynol wneud cais am y Cronfa Goffa Cyril Fox:

  • myfyrwyr israddedig Archaeoleg yn eu hail flwyddyn er mwyn cefnogi proseictau traethodau hir y flwyddyn olaf
  • myfyrwyr MA ac MSc Archaeoleg er mwyn cefnogi'r ymchwil sy'n rhan o'u rhaglenni Meistr
  • myfyrwyr PhD Archaeoleg er mwyn cefnogi'r ymchwil sy'n rhan o'u hastudiaeth doethurol.

Yn y cyd-destun hwn, golyga 'Archaeoleg' unrhyw radd sydd â Archaeoleg yn y teitl, boed yn israddedig neu'n ôl-raddedig, boed yn anrhydedd sengl, cydanrhydedd neu'n radd integredig.

Gwerth y wobr ar gyfartaledd yw £100-£200.

Sut i wneud cais

Gall fyfyrwyr Archaeoleg sy'n gymwys gael mwy o wybodaeth am Gronfa Goffa Cyril Fox a lawrlwytho ffurflen gais ar fewnrwyd y myfyrwyr.