Ewch i’r prif gynnwys

Ymgysylltu

SHARE with Schools video

Mae ein cynlluniau ymgysylltu ac arloesi wedi'u gwreiddio'n ddwfn yn y gymuned leol, ranbarthol a chenedlaethol. Gydag ystod eang o bartneriaid, o ysgolion i amgueddfeydd, mae ein cydweithredu'n arwain at ganfyddiadau ymchwil cyffrous.

Fel menter ragoriaeth ddisglair genedlaethol sydd wedi ennill gwobr, mae'r prosiect treftadaeth CAER wedi dod â stori cynhanes prifddinas Cymru i amlygrwydd.

Mae lefel uchel o gefnogaeth gan y gymuned leol wedi cael effaith fawr, gan herio ymyleiddio. Mae'r gwaith cloddio ym mryngaer Caerau wedi rhoi cipolwg cyffrous i ni ar gymunedau'r gorffennol, gan ymestyn ei threftadaeth yn ôl ymhell cyn y cyfnodau canoloesol, Rhufeinig a'r Oes Haearn i'r cyfnod Neolithig. Enillodd y prosiect wobr y Prif Enillydd yn erbyn 230 o gystadleuwyr eraill yng Nghystadleuaeth Ymgysylltu DU gyfan y Ganolfan Gydlynu Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu Cyhoeddus yn 2014.

Dysgwch mwy am ein gwasanaethau Ymgysylltu cyfredol:

Nid yn unig y mae ein prosiectau ymgysylltu a'n gwaith effaith yn dangos ein gwaith ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer ymchwil cymunedol, maent hefyd yn cynnig llwybr yn ôl i addysg i'r rhai sydd ag awydd cryf i ddysgu. Mae ein Llwybrau wedi eu llunio gyda golwg ar anghenion myfyrwyr aeddfed. Gall y rhain arwain at lwybrau achredig at radd, a hyd yn oed astudiaethau ôl-raddedig.

Darganfyddwch sut y mae ein Llwybrau'n arwain yn ôl i addysg

Archwilio'r gorffennol

Mae'r llwybr arloesol hwn sydd wedi ennill gwobrau yn cynnig llwybr at raddau mewn Hanes, Archaeoleg ac Astudiaethau Crefyddol yng Nghaerdydd. Mae'n cael ei ddysgu fin nos ac ar benwythnosau, ac mae wedi'i anelu at oedolion â bywydau prysur a all fod wedi cefnu ar addysg amser maith yn ôl.

Chwiliwch am holl weithgareddau'r Brifysgol ar gyfer ysgolion, colegau ac athrawon

Llwybrau

Dysgwch am sut mae ein llwybrau yn arwain yn nôl at addysg.

Ymchwilio'r Gorffennol

Fideo Ymchwilio'r Gorffennol

Mae'r llwybr arloesol ac arobryn yma'n cynnig ffordd at raddau mewn Hanes, Archaeloeg ac Astudiaethau Crefyddol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'r sesiynau addysgu'n digwydd yn y nosweithiau neu ar benwythnosau, ac maent wedi eu hanelu at oedolion â bywydau prysur sydd efallai wedi gadael addysg ers dipyn.