Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Rydym yn ganolfan ragoriaeth sydd ag enw rhyngwladol am ein hymchwil ac am ein dysgu. Rydym yn ymroi i astudio'r gorffennol a chredoau o'r cyfnod cynhanes i'n cymdeithasau cyfoes.

Gall ein cymuned ymfalchïo mewn dros 100 o staff academaidd a 1000 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig. Rydym yn ymdrechu i ddarparu addysg ragorol ar bob lefel, o'r rhai sy'n dymuno ailymuno ag addysg drwy ein Llwybrau, i'n myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig rhyngwladol. Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau arbenigol ar gyfer datblygiad proffesiynol mewn cadwraeth archaeolegol a chaplaniaeth.

Rydym yn ymfalchïo yn y gwreiddiau dwfn sydd gennym yn ein cymuned leol yng Nghymru, gyda chysylltiadau yn y sector treftadaeth, yn arbennig ein partneriaeth sefydledig gydag Amgueddfa Cymru. Caiff y gwreiddiau hyn eu hadlewyrchu hefyd ar draws y sbectrwm o gredoau'r byd sydd i'w canfod yn ein prifddinas gosmopolitan; man cyfarfod i amrywiaeth eang o ddinasyddion yn sgil ei hanes diwydiannol a morol.

Mae ein hamrywiaeth yn arwain at effaith bellgyrhaeddol ein hymchwil. Mae ein cadwraethwyr wedi achub yr SS Great Britain rhag effeithiau dinistriol rhwd. Ac mae ein hymchwil wedi ein helpu i ddeall sut y mae hunaniaeth mewnfudwyr i Gymru'n newid wrth iddynt addasu i ddiwylliannau Cymru. Rydym wedi cyflwyno'r anghenion tystiolaeth i wella gofal bugeiliol i Fwslimiaid.