Ewch i’r prif gynnwys

Preifatrwydd

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn ar gyfer gwefan Prifysgol Caerdydd yn unig (www.caerdydd.ac.uk, blogs.caerdydd.ac.uk, sites.caerdydd.ac.uk a campaigns.caerdydd.ac.uk).

I gael gwybodaeth gyffredinol am ddiogelu data a hysbysiadau preifatrwydd ar gyfer ymholwyr, myfyrwyr a staff, gweler ein tudalennau Diogelu Data.

Y data personol rydym yn ei gasglu

Mae gwefan Prifysgol Caerdydd yn casglu data personol gennych mewn dwy ffordd:

  • data rydych chi’n ei rhoi eich hun
  • data a gesglir yn awtomatig.

Nid yw’r wybodaeth a gesglir yn cael ei gwerthu i drydydd partïon.

Data rydych chi’n ei rhoi eich hun

Mae ein gwefan yn cynnwys nifer o wahanol fathau o ffurflenni ar-lein, fel yr eglurir isod. Caiff y data a gesglir drwy ffurflenni ar-lein ei ddefnyddio at y diben a ddisgrifir wrth ei gasglu yn unig, oni bai eich bod hefyd yn rhoi eich caniatâd i’w ddefnyddio at ddibenion diffiniedig eraill.

Ymholiadau

Pan fyddwch yn gwneud ymholiad ynglŷn ag astudio gyda ni neu'r gefnogaeth a gynigiwn, anfonir y data a ddarparwch at Gecko Engage a bydd y cael ei storio ar eu gweinyddion o fewn yr UE, yn Nulyn a Llundain. Bydd eich data wedyn yn cael ei reoli yn unol â pholisi diogelu data Prifysgol Caerdydd. I wneud cais am eich data neu ofyn iddo gael ei ddileu, cysylltwch â enquiry@caerdydd.ac.uk.

Pan fyddwch yn cyflwyno ymholiad i'n timau Cefnogi a Lles Myfyrwyr, mae'r data rydych chi'n ei roi yn cael ei anfon i Engage2Serve ac yn cael ei storio ar eu gweinyddwyr yn yr UE, yn Nulyn ac yn Llundain. Caiff eich data ei reoli yn unol â pholisi diogelu data Prifysgol Caerdydd. I wneud cais am eich data neu ofyn iddo gael ei ddileu, cysylltwch â studentconnect@caerdydd.ac.uk.

Ffurflenni ar-lein

Pan fyddwch yn llenwi ffurflen ar-lein ar www.caerdydd.ac.uk, blogs.caerdydd.ac.uk neu sites.caerdydd.ac.uk, anfonir y data personol a roddir gennych at Brifysgol Caerdydd.

Mae’r wybodaeth rydych yn ei gyflwyno drwy www.caerdydd.ac.uk wedi ei gynnal yn y Deyrnas Unedig gan Squiz, y cwmni sy’n darparu ein gwasanaethau cynnal gwefan. Mae Squiz yn gweithredu fel prosesydd data, yn prosesu eich data personol ar ein rhan. Caiff eich data ei ddileu o fewn 60 diwrnod

Gellir wedyn ei drosglwyddo i bartneriaid dibynadwy o dan gontract i’n helpu i wneud yr hyn a geisiwyd gennych (megis anfon prosbectws wedi’i argraffu atoch).

Ar campaigns.caerdydd.ac.uk, gellir anfon y data rydych yn ei rhoi at Instapage, a’i gadw’n unol â pholisi preifatrwydd Instapage, cyn ei drosglwyddo i Brifysgol Caerdydd. Cedwir y data hwn y tu allan i’r UE, a chaiff ei storio am gyfnod amhenodol oni bai ei fod yn cael ei ddileu. I wneud cais am eich data neu ofyn iddo gael ei ddileu, cysylltwch â web@caerdydd.ac.uk

Pan fyddwch yn llenwi ffurflen ar-lein, os ydych wedi rhoi eich caniatâd i dderbyn ebyst marchnata gennym, caiff eich cyfeiriad ebost ac unrhyw ddata personol angenrheidiol arall ei rhannu o dan gontract â Campaign Monitor a fydd yn rhoi gwasanaethau marchnata i ni’n unol â pholisi preifatrwydd Campaign Monitor. Mae’n bosibl i’r data yma gael ei storio y tu allan i’r UE. Caiff ei gadw am gyn hired ag y byddwch yn dewis parhau i dderbyn negeseuon gennym drwy danysgrifiad. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg drwy ddilyn y ddolen a ddarperir ym mhob ebost. I wneud cais am eich data neu ofyn iddo gael ei ddileu, cysylltwch â web@caerdydd.ac.uk

Pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan i wneud taliad ar-lein, cewch eich anfon at wefan Secure Trading i nodi eich manylion talu. Cedwir data megis eich enw, eich cyfeiriad a manylion eich cerdyn yn unol â pholisi preifatrwydd Secure Trading. Mae’n bosibl i’r data yma gael ei gadw y tu allan i’r UE a’i storio am ddeng mlynedd. I wneud cais am eich data neu ofyn iddo gael ei ddileu, cysylltwch â web@caerdydd.ac.uk

Pan fyddwch yn cofrestru i sgwrsio â llysgennad myfyrwyr, mae'r data rydych yn ei roi'n cael ei anfon at Unibuddy a'i gadw yn unol â pholisi preifatrwydd Unibuddy cyn cael ei rannu â Phrifysgol Caerdydd. Gallwch ddileu eich data trwy fynd i osodiadau cyfrif Unibuddy. I wneud cais i rannu’r data hwn gyda Prifysgol Caerdydd neu i ofyn iddo gael ei ddileu, cysylltwch â web@caerdydd.ac.uk

Ffurflenni cadw lle ar ddiwrnod agored

Mae ein ffurflenni cadw lle ar ddiwrnod agored yn cael eu cynnal ar Gecko Engage a’u storio ar eu gweinyddwyr yn yr UE, yn Nulyn a Llundain. Caiff eich data ei reoli yn unol â pholisi diogelu data Prifysgol Caerdydd. I wneud cais am eich data neu ofyn iddo gael ei ddileu, cysylltwch â enquiry@caerdydd.ac.uk.

Efallai y bydd eich data hefyd yn cael ei roi i wasanaeth Profi ac Olrhain y GIG, os gofynnir amdano o dan ofynion COVID-19.

Gall lleoedd a gedwir ar gyfer sesiynau penodol ar ddiwrnod agored gael eu cadw ar Eventbrite. Os byddwch yn cadw lle ar gyfer sesiynau penodol, caiff data ei anfon at Eventbrite a’i gadw’n unol â pholisi preifatrwydd Eventbrite cyn cael ei anfon at Brifysgol Caerdydd. Gellir ei gadw y tu allan i'r UE ond pan fydd hyn yn digwydd mae Eventbrite yn cymryd camau i ddiogelu data drwy Gymalau Cytundebol Safonol. Caiff y data ei storio am gyn hired ag y byddwch yn defnyddio gwasanaeth Eventbrite. I wneud cais am eich data Eventbrite neu ei ddileu, ebostiwch privacy@eventbrite.com

Profi defnyddioldeb a gwobrau cysylltiedig

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefannau, ac o bryd i’w gilydd rydym yn gofyn am ymatebion gwirfoddol i arolygon neu arbrofion canfod gwybodaeth. Mae'r rhain yn cael eu cynnal ar wefan 3ydd parti, Optimal Workshop. Caiff eich data ei brosesu yn unol â thelerau gwasanaeth Optimal Workshop. Mae eich adborth yn ddienw ond gallwch ddewis rhoi eich cyfeiriad ebost i gael eich cynnwys mewn raffl fawr, os caiff ei hysbysebu. Ni fyddwn yn defnyddio eich cyfeiriad ebost at unrhyw ddibenion eraill. Mae'r holl ddata arall a gesglir yn ymwneud â pha mor hygyrch yw gwefan yn hytrach na chi fel unigolyn.

Prifysgol Caerdydd yw'r rheolwyr data ar gyfer eich cyfeiriad ebost a data arall a gesglir drwy Optimal Workshop, ac Optimal Workshop yw'r prosesydd data. Byddwn yn trin eich data yn unol â'n polisi diogelu data. Gallwch hefyd ofyn i ni ddileu eich data o Optimal Workshop, o fewn 30 diwrnod ar ôl i Brifysgol Caerdydd ofyn am ddileu eich data.

Adborth

Pan fyddwch yn rhoi gwybod i ni am broblem neu'n rhoi adborth i ni am ein gwefan, bydd data personol megis eich cyfeiriad e-bost yn cael ei anfon at Zendesk. Defnyddia Zendesk ganolfannau data mewn tri phrif ranbarth — yr Unol Daleithiau, Asia'r Môr Tawel, a'r Undeb Ewropeaidd. Yn unol â pholisi preifatrwydd Zendesk, gellir storio eich data yn unrhyw un o'r rhanbarthau hynny. Bydd y data hwn yn cael ei storio am gyfnod amhenodol oni bai ei fod yn cael ei ddiléu. I ofyn am eich data neu ofyn iddo gael ei ddileu, cysylltwch â web@caerdydd.ac.uk.

Rydym yn defnyddio Hotjar ar rai rhannau o’n gwefan i gasglu adborth. Os ydych yn darparu eich cyfeiriad ebost, caiff ei storio yn yr UE yn unol â pholisi preifatrwydd Hotjar a’i gadw am 365 o ddiwrnodau. Gyda’ch caniatâd chi, bydd Hotjar yn cysylltu data o’ch gweithgarwch ar y wefan â’ch cyfeiriad ebost, a hefyd yn storio data am eich gwlad, eich dyfais, eich porwr a’ch gosodiad iaith. I wneud cais am y data hwn, i dynnu’ch caniatâd yn ôl neu i ofyn iddo gael ei ddileu, cysylltwch â web@caerdydd.ac.uk.

Sgwrsio byw

Os ydych yn defnyddio ein sgwrs fyw, caiff y data y byddwch yn ei rhoi i ni (megis eich enw, eich cyfeiriad ebost a chynnwys eich sesiwn sgwrsio) ei anfon at LiveChat a’i storio’n unol â pholisi preifatrwydd LiveChat. Efallai y bydd y data hwn yn cael ei storio y tu allan i’r UE, ond mae LiveChat yn gydymffurfwyr ardystiedig gyda Privacy Shield UE-UD. Caiff y data ei gadw am gyfnod amhenodol, ond gallwch wneud cais amdano neu ofyn iddo gael ei ddileu drwy gysylltu â web@caerdydd.ac.uk.

Data a gasglwyd yn awtomatig

Mae’r data y mae ein gwefan yn ei gasglu’n awtomatig yn ein helpu i ddeall pa rannau ohoni sydd fwyaf poblogaidd, o ble y daw ymwelwyr a sut maen nhw’n ei defnyddio. Mae hyn yn ein galluogi i wneud gwelliannau yn y dyfodol.

Ystadegau defnyddio

Wrth i chi ddefnyddio ein gwefan, anfonir data am y tudalennau yr ymwelwyd â hwy i Google Analytics fel ein bod yn gwybod faint o bobl sy'n ei ddefnyddio. Mae hyn yn cynnwys y tudalennau unigol yr ymwelwyd â hwy, cyfeiriad IP dienw, y ddyfais, porwr a'r wefan y daethoch. Gall Google hefyd gasglu gwybodaeth ddemograffig a diddordebau o'r cwci DoubleClick, os yw'n bresennol ar eich dyfais. Mae Google yn dibynnu ar Gymalau Cytundebol Safonol ar gyfer trosglwyddo data hysbysebu a mesur y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y DU neu'r Swistir.

Mae'r data'n cael ei storio am uchafswm o 14 mis yn unol â pholisi preifatrwydd Google. Mae Google yn darparu rheolaethau sy'n ofynnol gan gyfraith diogelu data y Deyrnas Unedig, fel y gallwch chi arfer eich hawliau i ofyn am fynediad at, diweddaru, dileu a chyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth.

Mae gennych hefyd yr hawl i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth neu allforio eich gwybodaeth i wasanaeth arall. I ofyn am y data hwn neu gofynnwch iddo gael ei ddileu cysylltwch â web@cardiff.ac.uk

Rydym hefyd yn cydweithio â Microsoft Clarity i ddal sut rydych chi'n defnyddio ac yn rhyngweithio â'n gwefan drwy fetrigau ymddygiadol, mapiau gwres, ac ail-chwarae sesiwn. Mae data defnydd gwefannau yn cael ei ddal gan ddefnyddio cwcis cyntaf a thrydydd parti a thechnolegau olrhain eraill i bennu poblogrwydd tudalennau gwefan a gweithgarwch ar-lein.

Er nad ydym yn gallu adnabod unigolion o'r data a gesglir trwy'r bartneriaeth hon, os ydych chi wedi cytuno i rannu data o'r fath gyda Microsoft trwy wasanaethau a chynhyrchion eraill, mae'n bosibl y byddant yn cydberthyn gwybodaeth ymddygiad defnyddwyr a gesglir trwy'r gwasanaethau/cynhyrchion hyn â data presennol sydd ganddynt yn gysylltiedig â chi.

At ddibenion gwella arferion twyll/diogelwch Microsoft ac at ddibenion hysbysebu, ni fydd Microsoft yn rhannu'r wybodaeth hon gyda Phrifysgol Caerdydd. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Microsoft yn casglu ac yn defnyddio'ch data, ewch i Ddatganiad Preifatrwydd Microsoft.

Effeithiolrwydd hysbysebu

Yn rhan o’n gwefan, rydym yn defnyddio codau a ddarperir gan Google, Facebook, Snapchat, TikTok neu LinkedIn i ddangos hysbysebion sy’n seiliedig ar ymweliadau blaenorol (ail-dargedu) ac i fesur effeithiolrwydd ein hymgyrchoedd hysbysebu. Mae’r côd hwn yn anfon data at Google, Facebook, Snapchat, TikTok neu LinkedIn am y tudalennau unigol yr ymwelwyd â nhw, y camau a gwblhawyd ar y dudalen, cyfeiriad IP, dyfais a phorwr.

Mae’n bosibl i’r data yma gael ei gadw y tu allan i’r UE. Mae Google, Facebook, Snapchat a LinkedIn yn gydymffurfwyr ardystiedig gyda Privacy Shield UE-UD. Gallwch wneud cais am y data neu ofyn iddo gael ei ddileu drwy dudalennau Facebook Eich Gwybodaeth, Cyfrif Google, rheolyddion preifatrwydd Twitter, Cymorth Snapchat, thudalennau polisi preifatrwydd TikTok a gosodiadau cyfrif LinkedIn neu ymweld â Eich Dewisiadau Ar-lein a diffodd hysbysebion ymddygiadol gan nifer fawr o gwmnïau.

Fideos YouTube

Ar dudalennau sy’n cynnwys fideos YouTube, caiff data am y fideos rydych yn eu gwylio ei anfon at Google a’i storio’n unol â pholisi preifatrwydd Google. Gall Google ei ddefnyddio i bersonoli hysbysebion i chi. Gallwch ddewis peidio â bod yn rhan o hyn drwy Osodiadau Google’s Ads a gwneud cais am eich data neu ei ddileu drwy eich Cyfrif Google.

Mapiau rhyngweithiol

Mae’r mapiau ar wefan Prifysgol Caerdydd yn defnyddio API Google Maps yn unol â pholisi preifatrwydd Google. Drwy ddefnyddio’r mapiau hyn, rydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan delerau ychwanegol gwasanaeth Google Maps/Google Earth.

Gyda’ch caniatâd chi yn unig y byddwn yn defnyddio mapiau rhyngweithiol sy’n dangos eich lleoliad. Os ydych yn rhoi eich caniatâd, bydd y map yn defnyddio cyfesurynnau eich lleoliad presennol, ond ni chaiff y data hwn ei anfon atom na’i storio gennym.

Siartiau rhyngweithiol

Ar dudalennau ein gwefan sy’n cynnwys siartiau rhyngweithiol, caiff data, gan gynnwys eich cyfeiriad IP, eich porwr a’ch dyfais ei anfon at ChartBlocks a’i gadw ar storfeydd Gwasanaethau Gwe Amazon am dair blynedd yn unol â pholisi preifatrwydd ChartBlocks. Mae telerau Amazon yn cynnwys Cymalau Cytundebol Safonol i ddiogelu trosglwyddo data y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd. I wneud cais am y data hwn neu i ofyn iddo gael ei ddileu, cysylltwch â web@caerdydd.ac.uk

Sain SoundCloud

Pan fyddwn yn defnyddio sain wedi’i mewnblannu, caiff gwybodaeth am y dudalen y gwnaethoch ymweld â hi a’r hyn rydych yn gwrando arno ei anfon at SoundCloud a’i gadw’n unol â pholisi preifatrwydd SoundCloud. Gallwch wneud cais am eich data neu ofyn iddo gael ei ddileu drwy Ganolfan Gymorth SoundCloud.

Marchnata ebost

Pan fyddwch yn rhoi eich caniatâd i dderbyn ebyst gennym, ac rydych yn clicio ar y dolenni yn yr ebyst rydym yn eu hanfon atoch, anfonir yr wybodaeth megis eich cyfeiriad IP, y feddalwedd ebost rydych yn ei defnyddio a’r dolenni rydych wedi clicio arnynt at Campaign Monitor, a’i storio’n unol â pholisi preifatrwydd Campaign Monitor. Mae’n bosibl i’r data gael ei gadw y tu allan i’r UE. Mae casglu’r data hwn yn ein helpu i ddeall pa gynnwys ebost sydd fwyaf poblogaidd fel bod modd i ni anfon ebyst mwy perthnasol atoch yn y dyfodol. Caiff ei gadw am gyn hired ag y byddwch yn dewis parhau i dderbyn negeseuon gennym drwy danysgrifiad. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg drwy ddilyn y ddolen a ddarperir ym mhob ebost.

Ymddygiad defnyddwyr

Rydym yn defnyddio Hotjar ar rai rhannau o’n gwefan i gofnodi data dienw am y ffordd y caiff tudalennau penodol eu defnyddio (megis cliciadau neu symudiadau’r llygoden). Nid yw Hotjar yn casglu nac yn storio unrhyw ddata personol.

Ffrydiau Twitter

Ar dudalennau sydd â chynnwys Twitter wedi’i fewnblannu arnynt, rydym yn dweud wrth Twitter i beidio â chofnodi unrhyw wybodaeth amdanoch. Gallwch ddewis nad yw Twitter yn eich olrhain mewn unrhyw ffordd ar dudalen gosodiadau Twitter Personolisation.

Lleoliad bras

Mae ein gwefan yn canfod y wlad rydych chi ynddi, yn seiliedig ar eich cyfeiriad IP. Mae hyn yn ein galluogi i bersonoli rhannau o'n gwefan ar gyfer ymwelwyr rhyngwladol.

Atal negeseuon sothach

Rydym yn defnyddio Google ReCaptcha ar gyfer rhai ffurflenni er mwyn canfod ac atal ymosodiadau gan bots sothach. Mae Google ReCaptcha yn anfon data am ddefnydd ffurflenni yn unol â pholisi preifatrwydd Google. Gallwch wneud cais i gael y data neu i'w dileu drwy eich cyfrif Google.

Cofnodion y gweinydd

Mae ein gweinyddion ar y we yn cofnodi ceisiadau am dudalennau gwe (URLs), ond ni chaiff unrhyw ddata personol ei gasglu na’i storio.

Gosodiad “do not track”

Nid yw ein gwefan yn cefnogi’r gosodiad “Do not track” ar borwyr ar hyn o bryd.

Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn

Rydym yn cadw'r hawl i newid yr wybodaeth hon heb rybudd.