Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleoedd yn yr iaith Gymraeg

Gall siarad Cymraeg fod yn ddefnyddiol i chi yn ystod eich cwrs a phan fyddwch wedi ei orffen ac wedi cychwyn ar eich gyrfa yn eich maes proffesiynol penodol.

Os ydych eisoes yn gallu siarad Cymraeg neu'n awyddus i ddysgu, gallwn eich cefnogi i ddatblygu sgiliau yn yr iaith Gymraeg. Mae gennym diwtoriaid personol sy'n siarad Cymraeg – mae tiwtoriaid Cymraeg yn hapus i weithio'n ddwyieithog hefyd. Gallwch hefyd sefyll arholiadau a asesiadau yn y Gymraeg.

Lle bynnag y bo'n bosibl, gallwch weithio gyda mentoriaid sy'n siarad Cymraeg yn ystod eich lleoliadau gwaith a gweithio gyda myfyrwyr eraill sy'n siarad Cymraeg ar aseiniadau grŵp.

Cynllun Ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg

Erbyn y flwyddyn academaidd 2016/17, ein bwriad yw i gynnig 40 o gredydau drwy gyfrwng y Gymraeg mewn rhai o'n cyrsiau israddedig. Gall myfyrwyr a fydd yn gallu cwblhau un rhan o dair o'u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg geisio am grant drwy Gynllun Ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  Gallwch ddysgu mwy am weithgareddau a chyfleoedd yn yr iaith Gymraeg yn gyffredinol ar wefan Cangen Prifysgol Caerdydd o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Byddwn hefyd yn tynnu sylw at gyfleoedd i ddysgu Cymraeg heb fod gennych unrhyw wybodaeth flaenorol o'r iaith neu i wella sgiliau iaith Gymraeg sydd gennych eisioes. Trafodwch yr opsiynau hyn gyda'ch tiwtor personol os hoffech mwy o wybodaeth.

Cysylltwch â'r tîm iaith Gymraeg i gael manylion penodol y gefnogaeth Gymraeg/ddwyieithog sydd ar gael yn gysylltiedig â phob rhaglen:

t: +44 (0)29 2068 7798 
e: gofaliechydcymraeg@caerdydd.ac.uk

Welsh Language Heathcare Team