Ewch i’r prif gynnwys

Israddedig

Mae'n cyrsiau wedi eu dylunio i ddarparu'r gwybodaeth a'r profiad sydd angen arnoch chi i ddilyn gyrfa broffesiynol yn y maes gofal iechyd. Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar agweddau ymarferol a chlinigol ein rhaglenni, oll sydd yn achrededig gan y cyrff proffesiynol perthnasol. Mae pob un o'n rhaglenni wedi'u cyllido drwy'r GIG Cymru.

Lle mae rhaglen yn cynnwys lleoliadau clinigol, mae angen adolygiad iechyd galwedigaethol, a wnaed gan y Brifysgol, a imiwneiddiadau addas.

Rwy’n hoffi’r ffaith bod Ysbyty Athrofaol Cymru yn agos i Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Caerdydd. Mae’r teimlad rydych yn cael, hyd yn oed o’ch diwrnod cyntaf, eich bod yn fyfyriwr nyrsio.

Laura Reid Myfyriwr Nyrsio Iechyd Meddwl

Nid ydym bellach yn recriwtio ar gyfer Ymarfer Gofal Llawdriniaethol. O fis Medi 2022, bydd y rhaglen yn cael ei chynnig gan Brifysgol De Cymru yn y de/de-ddwyrain, Prifysgol Abertawe yn y de-orllewin, a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn y Gogledd ac rydym yn eich cyfeirio i’r Prifysgolion hynny i ddilyn astudiaethau Ymarfer Gofal Llawdriniaethol yng Nghymru.