Ewch i’r prif gynnwys

Effaith ymchwil yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio

Mae gennym hanes da o sicrhau effaith ymchwil gadarnhaol, gan gynnwys datblygu polisi, dadl gyhoeddus ac arfer arloesol ym meysydd daearyddiaeth a chynllunio.

Gyda phrosiectau sy’n cael eu hariannu gan yr UE, cyrff cenedlaethol, adrannau’r llywodraeth a sefydliadau eraill, mae ein staff yn gweithio i gyflawni ymchwil perthnasol, cadarn, o ansawdd uchel sy’n cefnogi newid deddfwriaeth a llunio polisïau ar sail tystiolaeth ledled y DU a thu hwnt.

Uchafbwyntiau

aerial view of Cardiff showing teh castle and stadium and environs

Diwygio deddfwriaeth digartrefedd yng Nghymru

Arweiniodd ymchwil Dr Pete Mackie i ddeddfwriaeth digartrefedd Cymru at Ddeddf Tai (Cymru) 2014, ac mae wedi llywio dadleuon polisi yn yr Alban, Canada ac Awstralia.

Rhoi bwyd ar agenda’r byd

Rhoi bwyd ar agenda’r byd

Mae ymchwil arloesol yr Athro Roberta Sonnino wedi helpu i lunio fframwaith cyntaf y byd ar gyfer hyrwyddo sustemau bwyd trefol mwy cynhwysol a chynaladwy.

ADull newydd o hybu arloesedd rhanbarthol yn yr Undeb Ewropeaidd

ADull newydd o hybu arloesedd rhanbarthol yn yr Undeb Ewropeaidd

Helpodd ymchwil Prifysgol Caerdydd i weithredu rhaglen Arbenigedd Craff yr UE, y rhaglen arloesedd rhanbarthol fwyaf yn y byd.

Cyflymu datblygiad trefol cynaliadwy mewn Ewrop ôl-sosialaidd

Cyflymu datblygiad trefol cynaliadwy mewn Ewrop ôl-sosialaidd

Nododd Dr Oleg Golubchikov fylchau polisi y mae dinasoedd ôl-sosialaidd yn eu hwynebu, gan osod heriau ar agendâu polisi rhyngwladol a chenedlaethol a grymuso newid.

Gwella effaith amgylcheddol digwyddiadau mawr

Gwella effaith amgylcheddol digwyddiadau mawr

Datblygodd ein tîm rhyngddisgyblaethol o ymchwilwyr becyn cymorth gwerthuso i wneud digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol yn fwy cynaliadwy.

Uchafbwyntiau'r gorffennol

School dinners

Diwygio bwyd ysgol

Helpu i greu gwasanaeth bwyd ysgol iachach a mwy cynaliadwy.

Image of a remote Welsh village

Newid polisi gwledig yng Nghymru

Mae ymchwil a gynhaliwyd gan academyddion blaenllaw Prifysgol Caerdydd wedi helpu i lunio a newid polisïau lles a datblygu gwledig ledled Cymru.