Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio

Mae’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio’n un o ganolfannau arweiniol y DU ar gyfer ymchwil ym meysydd daearyddiaeth ddynol, cynllunio, dylunio trefol a dadansoddi gofodol.

Mae gennym bortffolio amrywiol o ymchwil sy’n ymgymryd â dulliau creadigol ac arloesol o ddeall newid economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol, ar draws amgylcheddau adeiledig a naturiol.

Mae ein hymchwil yn ymgysylltu â llawer o heriau cymdeithasol dybryd, gan gynnwys adfer ôl-Covid, adeiladu economïau cylchol, sero-net ac addasu rhag y newid yn yr hinsawdd, trafnidiaeth drefol gynaliadwy, cynllunio gwell, mynd i'r afael â pholareiddio gwleidyddol, twf sy'n cael ei yrru gan arloesedd a gwydnwch economaidd.

Mae gan ymchwil yn yr Ysgol ansawdd aml-raddol unigryw, sy'n rhychwantu gwaith cyfranogol gyda chymunedau yng Nghaerdydd, ymchwiliadau ar raddfa dinas a rhanbarth, ac ymchwil mewn llawer o leoliadau rhyngwladol. Mae ein staff yn cynnal ymchwil ar draws Ewrop, yn UDA, Canada, Awstralia, India, Tsieina, Malaysia, Japan, De Affrica, y Dwyrain Canol a mannau eraill.

Cyflawni effaith

Mae gennym hanes cryf o effaith ymchwil gadarnhaol, ar gyfer llywio datblygiad polisïau, ysgogi trafodaeth gyhoeddus a datblygu arferion arloesol.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ein hymchwil wedi chwarae rhan flaenllaw wrth helpu'r Cenhedloedd Unedig i ddeall tueddiadau trefol allweddol, datblygu pecynnau cymorth i leihau effeithiau digwyddiadau chwaraeon mawr, creu'r fframwaith polisi byd-eang cyntaf ar gyfer bwyd trefol cynaliadwy, llunio deddfwriaeth ar ddigartrefedd a dylanwadu ar ddulliau newydd o ddatblygu economaidd rhanbarthol.

Mae ein henw da am ddarparu ymchwil gadarn o ansawdd uchel ar gyfer llunio polisïau ar sail tystiolaeth ar draws y byd wedi ennill cyllid prosiect gan yr UE, cyrff cenedlaethol, adrannau'r llywodraeth a sefydliadau eraill.

Cydnabyddiaeth am ragoriaeth

Mae Prifysgol Caerdydd yn cael ei chydnabod yn un o brif brifysgolion ymchwil y DU. Mae’n aelod o Grŵp Russell, sy’n cynnwys 24 o brifysgolion ymchwil-ddwys gorau’r DU. Mae ein Hysgol yn cael ei chydnabod yn gyson am arwyddocâd ein hymchwil yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.