Ewch i’r prif gynnwys

Cyrsiau

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau israddedig, ôl-raddedig a addysgir ac ôl-raddedig ymchwil sy'n cael eu dysgu gan ein staff o arbenigwyr uchel eu parch.

Mae ein graddau'n cymryd diddordebau daearyddol ein myfyrwyr ac yn eu gosod yng nghyd-destun y byd go iawn, sy'n eu helpu i ddatblygu'r sgiliau beirniadol ac ymarferol sydd eu hangen arnynt i drawsffurfio eu bywydau a'r lleoedd o'u cwmpas yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Israddedig

Mae ein cyrsiau israddedig yn canolbwyntio ar effeithiau newidiadau economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol ar yr amgylchedd adeiledig a naturiol.

Ôl-raddedig a Addysgir

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o raglenni gradd Meistr sy’n mynd i’r afael â pholisi cyfoes a materion ymchwil.

Ôl-raddedig Ymchwil

Rydym yn chwarae rôl flaenllaw mewn dadleuon academaidd a pholisi ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol, ac yn bwriadu recriwtio myfyrwyr ymchwil ymroddgar ar gyfer mynd ar drywydd ymchwil arloesol, blaengar ar lefel PhD.

Ein hegwyddorion

Rydym wedi ymrwymo i gynnig yr addysgu gorau posibl i'n myfyrwyr. I gyflawni hyn, rydym yn dilyn y credoau canlynol:

  • Anelwn at ddysgu ein myfyrwyr mewn amrywiaeth o ffyrdd arloesol, sy'n cynnwys darlithoedd, dosbarthiadau wyneb i waered, seminarau darllen, grwpiau trafod, sesiynau labordy ac ymchwil maes gweithgar. Mae'r math hwn o ymgysylltiad yn annog rhyngweithio positif rhwng staff a myfyrwyr a rhwng y myfyrwyr eu hunain.
  • Rydym yn annog arloesedd a chreadigrwydd wrth asesu dysgu ac addysgu, yn sicrhau bod myfyrwyr yn ennill ac yn cryfhau sgiliau ym meysydd ysgrifennu, cyflwyno proffesiynol, creu posteri a ffilmiau.
  • Mae ein hymchwil arloesol yn llywio'r ffordd rydym yn addysgu ein myfyrwyr - mae'r rhan helaeth o'n staff dysgu yn ymchwilwyr gweithgar.

Mae medrusrwydd ac arbenigedd eang ein 60 o aelodau staff yn sicrhau bod holl agweddau Cynllunio a Daearyddiaeth Ddynol yn rhan o'n cyrsiau.

Aseswyd ansawdd dysgu'r Ysgol fel 'rhagorol' ac rydym wedi sgorio'n uchel yn adolygiadau'r llywodraeth o ansawdd ymchwil.