Ewch i’r prif gynnwys

Israddedig

Mae ein cyrsiau israddedig yn canolbwyntio ar effeithiau newidiadau economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol ar yr amgylchedd adeiledig a naturiol.

Mae'r cyrsiau hyn wedi eu dylunio a'u cynnal gan dîm o academyddion blaenllaw ym meysydd daearyddiaeth a chynllunio. Tra bod daearyddiaeth yn darparu'r sgiliau sydd eu hangen i ddeall natur newid a'r effeithiau, mae cynllunio yn defnyddio'r ddealltwriaeth hon er mwyn gweithredu ac i sicrhau safon amgylcheddol well ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Rydym yn cynnig cyfle israddedig trochol i'n myfyrwyr sydd wedi anelu at ddatblygu nid yn unig dealltwriaeth fanwl o bynciau perthnasol, ond hefyd y gallu i gyfrannu at ystod eang o barthau polisi, yn cynnwys cyfiawnder cymdeithasol, iechyd, nodweddion trefol, tai a digartrefedd, cyfiawnder bwyd, datblygiad y trydydd byd, ac atffurfio economaidd.

Mae ein cymarebau staff-myfyrwyr gwych yn sicrhau bod gennych y cyfle i gadw mewn cysylltiad agos a rheolaidd gyda'n haelodau o staff sydd wedi ymrwymo i rannu eu cyfoeth o wybodaeth a phrofiad gyda chi.

Rhaglenni gradd

“Gwnaeth Astudio Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Caerdydd fy ngalluogi i edrych ar y cysylltiadau cymhleth a diddorol rhwng pobl a lleoedd, o safbwyntiau economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol. Wrth fyw yng Nghaerdydd cefais y cyfle perffaith i ddatblygu fy astudiaethau a phrofi'r awyrgylch cyffrous o fynd i brifysgol mewn prifddinas.”

Charlotte Eales

Prospectws

Prosbectws israddedig

Lawrlwytho neu archebu copi papur o brosbectws y Brifysgol.

Cyllid

Mae'r Brifysgol yn cynnig ystod o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gyfer myfyrwyr sy'n cychwyn eu hastudiaethau. Mae dewisiadau ar gael beth bynnag bo'ch sefyllfa, fel cyllid i fyfyrwyr rhan-amser, cymorth i geiswyr lloches ac amrywiraeth o raglenni cymorth ariannol ychwanegol.

Mwy o wybodaeth am gyllif, gan gynnwys sut i wneud cais.