Ewch i’r prif gynnwys

Ôl-raddedig Ymchwil

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Rydym yn ganolfan flaenllaw ar gyfer ymchwil mewn daearyddiaeth ddynol a chynllunio, gyda phwyslais ar helpu ein myfyrwyr i ddeall beth yw eu llawn botensial yn y maes ymchwil o'u dewis.

Mae ein henw da rhyngwladol yn denu myfyrwyr PhD o safon uchel o bedwar ban byd. Caiff hyn ei adlewyrchu yn ein carfan bresennol o fyfyrwyr o sawl lle, gan gynnwys Ewrop, Affrica, Asia, y Caribî a phob rhan o’r DU.

Rydym yn chwarae rhan flaenllaw mewn dadleuon academaidd a pholisi ar lefel genedlaethol a rhyngwladol ac rydym yn ceisio recriwtio myfyrwyr ymchwil i roi o’u gorau i fynd ar drywydd ymchwil arloesol ar lefel PhD.

Rydym yn rhoi cryn bwys ar ansawdd hyfforddiant, a goruchwyliaeth dros, ein myfyrwyr ymchwil. Neilltuir i bob myfyriwr ymchwil ddau oruchwylydd sy’n arbenigo ar eu maes perthnasol, ac fe’u cysylltir ag un o Grwpiau Ymchwil yr Ysgol. Mae bod yn aelod o un o’r grwpiau hyn yn cynnig cyd-destun lle gellir cyfnewid gwybodaeth am y maes ymchwil eang a chael profi a bod yn rhan o gymuned academaidd ehangach yr Ysgol.

Cynllunir pecyn pwrpasol o hyfforddiant mewn dulliau i bob myfyriwr PhD blwyddyn gyntaf. Bydd y rhaglen reolaidd o seminarau ymchwil PhD a dau ddiwrnod Cwrdd-i-Ffwrdd y flwyddyn yn gyfle i fyfyrwyr gyflwyno’u hymchwil mewn amgylchedd cefnogol ac adeiladol.

Gallwch wneud cais i astudio MPhil neu PhD mewn Daearyddiaeth a Chynllunio.

Cyllid

Rydym yn gymwys ar gyfer ymchwil PhD a ariennir gan ESRC ac yn hapus i gefnogi ceisiadau ymgeiswyr addawol yn ein meysydd arbenigedd. I gael manylion ynglŷn â chymhwysedd ac esboniad o'r broses dyfarnu grantiau, ewch i Cyfleoedd Ariannu ESRC.

Rydym wedi ennill cydnabyddiaeth gan ESRC ar gyfer rhaglenni 1+3 a +3 PhD. Gall myfyrwyr PhD blwyddyn gyntaf mewn Daearyddiaeth a Chynllunio ennill y cyfle i ymgymryd â chynllun astudio sy’n uniongyrchol gysylltiedig â hyfforddiant ymchwil ym maes cynllunio, yr amgylchedd a thai. Bydd disgwyl i fyfyrwyr PhD y flwyddyn gyntaf ymgymryd â pheth o’r MSc mewn Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol, neu’r cyfan ohono. Mae llwybrau unigryw drwy’r cwrs ym maes cynllunio, tai, cynaliadwyedd, trafnidiaeth ac adfywio ar gael.

Mae ymgeiswyr o dramor wedi cael eu hariannu gan raglen Cymorth Technegol Prydain a weinyddir gan y Cyngor Prydeinig, Rhaglen Cydweithrediad Technegol y Gymanwlad, Sefydliad Ford, Banc y Byd, yr UE neu eu llywodraeth neu gyflogwr eu hunain. Gall myfyrwyr sy’n ariannu eu hunain dalu'r ffioedd mewn dau randaliad.

Mae'r Brifysgol hefyd yn cynnig ystod o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i fyfyrwyr sy'n dechrau ar eu hastudiaethau.