Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Trawsffurfio lleoedd drwy feddwl yn feirniadol ac ymgysylltu gyda'r cyhoedd.

Ysgol feirniadol

Rydym yn ymateb i'r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu yn y 21g. Defnyddiwn feddwl beirniadol a gwybodaeth gyffredinol i ddatrys problemau economaidd amgylcheddol a chymdeithasol.

  • Ymhlith y 100 uchafyn Rhestr QS o Brifysgolion gorau’r byd

Rydym wedi'n lleoli mewn Prifysgol sy'n canolbwyntio ar ymchwil ac mae gennym enw da fel Ysgol am ragoriaeth ein gwaith.  Yn ôl y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil ddiweddaraf, mae Prifysgol Caerdydd yn 5ed yn y DU am ansawdd ei gwaith ymchwil. Fel Ysgol rydym yn y 50 uchaf yn Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd yn ôl pwnc.

Mae ein hymchwil, sy'n cael ei arwain gan addysgu, yn darparu cysylltiadau rhwng daearyddiaeth ddynol a chynllunio gofodol ac yn creu pont rhwng gwybodaeth academaidd a sefyllfaoedd yn y byd go iawn.

Ysgol sy'n ymgysylltu

Rydym yn weithgar yn ymgysylltu gydag amrywiaeth o gynulleidfaoedd a rhanddeiliaid, yn dylanwadu ar bolisïau sefydliadau rhyngwladol, y llywodraeth genedlaethol, awdurdodau lleol, sefydliadau anllywodraethol ac elusennol.

Rydym yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu, lle rydym yn arddangos effaith ein hymchwil ac yn datblygu cysylltiadau gyda rhanddeiliaid allanol a phartneriaid.

Ysgol sy'n trawsnewid

Rydym yn cynnig amgylchedd ysgogol, cefnogol a chyffrous i fyfyrwyr i astudio a ffynnu. O achosion ar bapur, i gyfleoedd ymarfer, rydym yn galluogi ein myfyrwyr a staff i drawsnewid y byd yn weithredol.

Mae ein dulliau dysgu ac asesu yn galluogi myfyrwyr i wella eu haddysgu, eu cyflogadwyedd a'u potensial fel dinasyddion.