Ewch i’r prif gynnwys

Ailddiffinio’r cilogram, y kelvin, yr amper a’r môl: pam y dylech boeni er na wnewch chi sylwi?

Dydd Iau, 21 Chwefror 2019
Calendar 13:30-15:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

National Physical Laboratory

Mae datblygiad mewn gwyddoniaeth a pheirianneg yn aml yn gysylltiedig â chynnydd mewn mesureg. Os na allwn ni fesur rhywbeth, ni allwn ddechrau ei ddeall (gwyddoniaeth) na’i wella (peirianneg). Ac mae gwell mesuriad yn arwain at well dealltwriaeth a rheolaeth.

Mesur yw’r gymhariaeth feintiol o faint anhysbys â mesuriad safonol. Yn y System Unedau Rhyngwladol – yr ‘SI’ – ceir saith mesur safonol a elwir yn ‘unedau sylfaen’: eiliad, metr, cilogram, amper, kelvin, candela a môl. Mae’r perffeithrwydd sydd ei angen i wneud y diffiniadau hyn yn real yn cynrychioli terfyn sylfaenol i ansicrwydd mesuriadau cyraeddadwy. Er mwyn dileu’r terfynau hyn, o fis Mai 2019 bydd newidiadau cynnil ond difrifol i ddiffiniadau’r pedair uned sylfaen hyn – y cilogram, y kelvin, yr amper a’r môl.

Yn ei sgwrs, bydd Michael de Podesta yn esbonio’r rhesymeg y tu ôl i’r newidiadau arfaethedig a pham, er y byddwch yn annhebygol o sylwi ar unrhyw newidiadau yn bersonol nac yn broffesiynol, y dylech fod yn hapus amdanynt.

Mae Michael de Podesta yn ffisegydd sy’n arbenigo mewn mesureg tymheredd yng Ngrŵp Tymheredd a Lleithder Y Labordy Ffisegol Cenedlaethol (NPL). Arweiniodd y tîm ymchwil a oedd yn gyfrifol am greu amcangyfrif o’r Boltzmann constant gyda’r ail lefel isaf o ansicrwydd erioed () a chyhoeddi’r mesuriadau tymheredd mwyaf cywir mewn hanes (). Mae ganddo ddiddordeb ym mhob agwedd ar fesureg ac mae’n cyfathrebu â’r cyhoedd drwy sgyrsiau a darlithoedd arddangos. Mae’n ysgrifennu blog ar http://protonsforbreakfast.org

Graddiodd Michael gyda BSc o Brifysgol Sussex yn 1981 ac fe gwblhaodd DPhil yn 1985 mewn priodweddau electronig metelau ar dymereddau cryogenig. Ar ôl gwneud gwaith ôl-ddoeuthurol ym Mhrifysgol Bryste, cafodd ei benodi yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Llundain ym 1987, ac ymunodd ag NPL yn 2000.

13:30 - Darlith
15:00 - Diwedd y digwyddiad

Cynhelir y digwyddiad hwn trwy gyfrwng y Saesneg.

Gweld Ailddiffinio’r cilogram, y kelvin, yr amper a’r môl: pam y dylech boeni er na wnewch chi sylwi? ar Google Maps
Small Chemistry Lecture Theatre 1.122
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Rhannwch y digwyddiad hwn