Ewch i’r prif gynnwys

Athroniaeth

Rydyn ni’n cyfuno’r dulliau dadansoddol, cyfandirol ac empirig o feddwl am Athroniaeth.

Yn bennaf, mae ein hymchwil yn cwmpasu’r meddwl a gwerth, a chryfderau ein hymchwil yw athroniaeth seicoleg, athroniaeth ffeministaidd, seicoleg foesol, ymwybyddiaeth, rhesymoledd, cred, rhinwedd epistemig a gwerth esthetig. 

Cyhoeddiadau a sgyrsiau yw cyfryngau athroniaeth. Rydyn ni’n cynnal seminar ymchwil pan fydd siaradwyr gwadd yn ogystal â seminar gwaith ar y gweill ar gyfer staff a myfyrwyr doethurol. Rydyn ni hefyd yn gartref i gangen o’r Sefydliad Athroniaeth Brenhinol, sy’n cynnal digwyddiadau cyhoeddus a rheolaidd ym maes athroniaeth yn ogystal â Darlith Flynyddol Caerdydd sy’n ddigwyddiad o bwys. 

Rydyn ni’n credu mewn ymchwil ryngddisgyblaethol a gwerth cyhoeddus athroniaeth, gan gydweithio â’n cydweithwyr Ieithyddiaeth a Seicoleg. Rydyn ni’n cyfrannu'n rheolaidd at flogiau, cylchgronau, podlediadau a digwyddiadau cyhoeddus. Rydyn ni'n cynnal y blog Open for Debate

Mae’r Athro Alessandra Tanesini wedi derbyn Cymrodoriaeth Ymchwil o Bwys Cymdeithas Mind 2023-24 am ei phrosiect llyfr ar gymryd cyfrifoldeb am ein geiriau ar y cyfryngau cymdeithasol.