Ewch i’r prif gynnwys

Iaith a ieithyddiaeth

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Rydym ni’n ymchwilio i gaffael, cynhyrchu a dehongli iaith mewn gwahanol gyd-destunau.

Ein prif gryfderau yw ieithyddiaeth fforensig, ieithyddiaeth swyddogaethol systemig, ieithyddiaeth corpws, dadansoddi disgwrs, iaith fformiwlaig, cyfathrebu gweledol / amlfodd a digidol, a chyfathrebu proffesiynol.

Yn nodweddiadol, gofynnwn sut mae ffenomenâu cymdeithasol a diwylliannol penodol yn effeithio ar iaith, neu sut mae iaith yn effeithio arnynt hwythau.  Er enghraifft, mae clefyd Alzheimer yn effeithio'n uniongyrchol ar gynhyrchu a deall geiriau. I'r gwrthwyneb, gall dewisiadau iaith rhywun ddylanwadu ar pa mor amlwg yw eu dementia a sut mae eraill yn siarad â nhw.

Y brif ganolfan ymchwil ym maes Iaith a Ieithyddiaeth yng Nghaerdydd yw'r Ganolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu. Mae grwpiau ymchwil pellach yn cynnwys:

Mae un o'n hymchwilwyr, Dr Sean Roberts, yn seicolegydd esblygiadol. Mae'n rhan o dîm sy'n datblygu gwasanaeth o'r enw 'Future Time Reference' sy'n cydnabod newidiadau cymryd risg mewn amser go iawn o gyfryngau cymdeithasol cyhoeddus.