Ewch i’r prif gynnwys

Llenyddiaeth Saesneg

Mae ein hymchwilwyr yn archwilio sut mae creadigrwydd yn gweithio mewn testunau llenyddol a bywyd beunyddiol.

O lenyddiaeth epig Hen Norwyeg i farddoniaeth arbrofol gyfoes, rydym yn dadansoddi pob cyfnod a sut mae diwylliant yn cael ei gynrychioli a’i newid gan ei lenyddiaeth. Rydym yn angerddol ac yn dda am fynd at wraidd pynciau o fewn disgyblaeth, ac rydym yn datblygu prosiectau arloesol oherwydd hynny er mwyn gwneud ein cymdeithas yn deg, yn arloesol ac yn hyfryd.

Y berthynas rhwng testunau a lluniau, y cysylltiadau rhwng gwyddoniaeth a llenyddiaeth, rhyw, hil a diwylliannau digidol yw ein cryfderau ar draws y cyfnodau. O ran cyfnodau, mae gennym arbenigedd arbennig yn y 1800au hyd at heddiw, drwy fanteisio ar arwyddocâd diwylliannol, diwydiannol a gwleidyddol ein dinas.

Er enghraifft, mae prosiect mawr yr Athro Radhika Mohanram sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Ffoaduriaid Cymru: Bywyd wedi Trais, yn gweithio gydag Amgueddfa Cymru i gyfweld â ffoaduriaid am eu profiadau o ryfela, ffoi a dod yn rhan o gymdeithas newydd. Dechreuodd hyn ag ymchwiliad ysgolheigaidd i’r ffordd y mae astudiaethau trawma a’r cof yn ymdrin â phynciau Gorllewinol; bydd yn gorffen â dealltwriaeth well ymhlith y cyhoedd a pholisïau a luniwyd yn well.