Ewch i’r prif gynnwys

Athroniaeth

Philosophy at Cardiff University

Sut dylem fyw ein bywydau? Beth ddylem ni ei gredu? Sut dylem fynd ati i geisio ateb y cwestiynau hyn? Sut gallwn ni hyd yn oed feddwl amdanynt?

Mae Athroniaeth yn ymchwilio i'r materion dwys hyn. Dyma'r ddisgyblaeth academaidd hynaf ac mae wedi datblygu ystod drawiadol o gysyniadau a thechnegau ar gyfer mynd i'r afael â phroblemau anodd. Yn ystod tair blynedd o astudio, byddwch yn datblygu ac yn mireinio eich sgiliau meddwl trwy ystyried posau athronyddol manwl.

Rydym yn cynnig cwrs annibynnol mewn athroniaeth, yn ogystal â'r dewis i astudio athroniaeth gyda chydanrhydedd.

Eich dyfodol mewn golwg

Mae astudio athroniaeth gyda ni yn baratoad ardderchog ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd i raddedigion ar draws pob sector o'r economi. Mae sgiliau a chysyniadau allweddol y ddisgyblaeth yn ddefnyddiol wrth ddatrys pob math o broblemau.

Mae graddedigion athroniaeth yn aml yn cael gyrfaoedd llwyddiannus iawn yn y gwasanaeth sifil, llywodraeth leol, a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus, mewn elusennau a sefydliadau dielw eraill, ac mewn swyddi rheoli mewn busnesau mawr

Studying Philosophy at Cardiff University was an overwhelmingly positive experience. The modules on offer and the structure of the course allowed me to pursue my interests through an engagement with the most influential intellectual movements and key thinkers in these fields. Even though I hadn't studied Philosophy at A-level, the course delivered in an accessible way. I found that staff were always approachable and helpful. The advice and assistance given by my dissertation supervisor went beyond and made my task a particularly enjoyable one.

Kevin Jones BA Philosophy graduate