Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil ôl-raddedig

Ymunwch â'n hamgylchedd rhyngddisgyblaethol cefnogol sy'n cynhyrchu a'n rhannu ymchwil sy'n arwain y byd.

Gallwch gymryd rhan yn ein rhaglenni PhD amser llawn neu rhan amser. Maent yn cychwyn ym mis Ionawr, Ebrill, Gorffennaf a Hydref. Yr eithriad yw ein rhaglen PhD Ieithyddiaeth Gymhwysol (Astudiaethau Geiregol), sydd ar gael yn rhan amser yn unig, a sy'n cychwyn ym mis Hydref.

Rydym yn cynnig cyfleoedd ymchwil ôl-raddedig yn:

Caiff myfyrwyr eu goruchwylio gan ymchwilwyr sy'n arweinwyr yn eu meysydd, ac maent yn mwynhau'r fantais o ymuno ag amgylchedd ymchwil mawreddog a dynamig gyda chefnogaeth dda, sy'n cynnwys cyfleusterau rhagorol.

Mae ymchwilwyr ôl-raddedig yn aelodau allweddol o'n cymuned gefnogol, fywiog a deallusol. Mae ein grwpiau darllen niferus, seminarau ymchwil, gweithdai a chynadleddau (nifer ohonynt wedi'u trefnu gan ymchwilwyr ôl-raddedig) yn darparu llwyfan cyffrous er mwyn arddangos cysyniadau newydd, dod o hyd i broblemau a rhoi cynnig ar syniadau newydd.