Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr rhyngwladol

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Rydym yn gymuned gyfeillgar sy’n amrywiol o ran diwylliant, gyda llu o staff a myfyrwyr rhyngwladol.

Mae ein cymuned fyd-eang yn cynnig amgylchedd bywiog a cholegol, gydag aelodau o sawl gwlad a diwylliant ymhlith ein staff a’n corff myfyrwyr. Bob blwyddyn, rydym yn croesawu nifer uchel o fyfyrwyr rhyngwladol sy’n cyfoethogi’r Ysgol.

Rydym yn cydnabod bod symud o’ch gwlad enedigol ac integreiddio i ddiwylliant ddieithr yn gallu bod yn brofiad heriol. O ganlyniad rydym yn ymrwymedig i ddarparu cymorth ac arweiniad arbenigol i helpu i wneud eich profiad yn y brifysgol yn un cyfforddus a boddhaus.

Croeso cynnes i’n prifddinas

A hithau’n un o brifddinasoedd ifancaf Ewrop, mae Caerdydd yn lle gwych i fyw ac astudio.

Byddwch yn sylwi bod ein cymuned yn gyfeillgar ac yn groesawgar, gan eich helpu i deimlo’n gartrefol fel y gallwch gyflawni eich llawn botensial.

Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn llawn gweithgarwch cyffrous. Mae’n gartref i fwy na 200 o grwpiau cymdeithasol a 60 o glybiau chwaraeon, gyda phob un wedi’i ddylunio i wella eich profiad yn y brifysgol a chyfoethogi bywyd myfyrwyr.

Fel myfyriwr, byddwch hefyd yn darganfod amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol sydd wedi’u dylunio i’ch cyflwyno i ddiwylliant a chymuned Caerdydd a Chymru, wedi’u trefnu gan yr Ysgol a’r Brifysgol.

Eich cefnogi chi

Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys popeth i’ch helpu, o baratoi i gyrraedd a’r tu hwnt, gan gynnwys cyngor meddygol, arweiniad gyrfaol a chymorth crefyddol. Ein nod yw eich helpu i ffynnu’n academaidd, ond hefyd yn gymdeithasol, yn emosiynol ac yn broffesiynol.

Hyd yn oed cyn i chi gyrraedd, byddwn yn cynnig cymorth ychwanegol gan fyfyrwyr rhyngwladol presennol, sy’n gallu rhoi cyngor ymarferol ac awgrymiadau defnyddiol.

Yn ystod y broses ymgeisio, gall ein Llysgennad Myfyrwyr Rhyngwladol ateb cwestiynau am astudio gyda ni, a bywyd fel myfyriwr ôl-raddedig.

Ar ôl i chi gyrraedd, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â Chynrychiolydd Myfyrwyr Rhyngwladol yr Ysgol i gael cyngor i’ch helpu i ymgartrefu’n gyflym.

Yn ogystal, mae Grŵp Traethodau Ymchwil yr Ysgol yn ffordd wych i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig archwilio’r ystod o bynciau traethodau ymchwil sydd ar gael, a chymdeithasu â myfyrwyr o bedwar ban byd. Mae’r grŵp cyfeillgar hwn yn cwrdd naw gwaith y flwyddyn, ac yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol llawn hwyl ar ddiwedd pob tymor.

Mae ein Canolfan Cymorth Ysgrifennu yn cynnig amrywiaeth o gymorth i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu academaidd ac iaith ysgrifenedig.

Cymorth iaith Saesneg i fyfyrwyr

Gall myfyrwyr rhyngwladol fanteisio ar ein Hadnoddau Saesneg ar-lein a’n dosbarthiadau Mynediad Agored yn ystod y flwyddyn academaidd.

Gall myfyrwyr iaith Saesneg ôl-raddedig gael mwy o cymorth gyda gramadeg, geirfa ac ysgrifennu academaidd Saesneg hefyd yn ein sesiynau iaith Saesneg wythnosol yn ystod y flwyddyn academaidd.

Eich camau gyrfaol nesaf

P’un a oes gennych syniad clir o’r hyn yr hoffech chi ei wneud ar ôl y brifysgol neu ddim syniad o gwbl, rydym wrth law i’ch helpu, eich arwain a’ch cefnogi.

Rydym yn canolbwyntio ar gynnig cyfleoedd i chi roi theori academaidd yr ystafell ddosbarth ar waith mewn lleoliad proffesiynol, gan sicrhau eich bod yn barod ar gyfer byd gwaith ac yn ddeniadol i gyflogwyr ar ôl graddio.

Mae gennym Gynghorydd Gyrfaoedd sy’n gallu rhoi cyngor ac arweiniad arbenigol a phenodol i chi sy’n seiliedig ar fusnes.

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gymorth gyrfaol a chyflogadwyedd gan gynnwys gweithdai, digwyddiadau a lleoliadau profiad gwaith, gan eich helpu i gyflawni eich nodau proffesiynol.