Ewch i’r prif gynnwys

Ymgysylltu a Chenhadaeth Ddinesig

Rydym ni'n credu mewn rhannu perthnasedd ein hymchwil er mwyn darparu meddwl trawsnewidiol, a chyfrannu'n gadarnhaol at gymdeithas a'r economi'n ehangach.

Rydym ni'n cyfoethogi ein cymuned yn lleol ac yn fyd-eang drwy weithgaredd ymgysylltu cyffrous ac ystyrlon, harneisio grym ein disgyblaethau a'r dyniaethau i danio syniadau a helpu i ffurfio'r byd ehangach.

Mae hyn yn cael effaith wirioneddol ar draws sectorau, boed yn ddiwylliannol, yn feddygol neu'n gyhoeddus. Mae cydnabyddiaeth yn y maes academaidd yn glir hefyd, gyda gwobrau o fri fel Gwobr Emerald Real World Impact sy’n rhoi sylw i waith ar gyfathrebu dementia.

Mae ein ffocws ar gyfathrebu iechyd wedi arwain at edafedd amrywiol sy’n cael effaith mewn cymunedau yn fyd-eang.

Mae DrawingOut wedi rhoi offer newydd i bobl eu mynegi eu hunain trwy luniau trosiadol gydag ymarferion lluniadu syml cam wrth gam. Yn Affrica mae ein cydweithio gydag elusen Africaid Whizzkids United wedi creu llyfrynnau comics i helpu pobl ifanc Affrica i ddeall a'u diogelu eu hunain rhag HIV/AIDS ac Ebola. Mae ein gwaith yn datblygu pecyn cymorth cyfathrebu gweledol yn helpu pobl sydd ag anabledd dysgu i fynegi emosiynau a hoffterau, rhannu newyddion a chymryd rhan mewn penderfyniadau cymunedol.

Yn y prosiect Newid Agweddau mewn Trafodaethau Cyhoeddus, mae ein hathronwyr yn datblygu ac yn profi ymyriadau ymarferol i leihau haerllugrwydd mewn trafodaethau.  Ein nod yw dod â'r cyhoedd ac academyddion, newyddiadurwyr a llunwyr polisi ynghyd i archwilio natur newidiol trafodaeth gyhoeddus. Rydym ni'n croesawu cyfraniadau drwy'r blog neu ebost capd@daerdydd.ac.uk gyda'ch syniadau.

Mae rhannu'r ddealltwriaeth ddiweddaraf gan arbenigwyr hefyd wrth wraidd Sôn am Straeon Caerdydd. Yn y Clwb Llyfrau gwahanol hwn, a gaiff ei guradu'n gariadus gan ysgolheigion Llenyddiaeth Saesneg, caiff safbwyntiau ffres eu rhannu ar amrywiaeth eclectig o lenyddiaeth, o'r clasuron i ffuglen newydd sbon.

Beth bynnag yw eich diddordeb, rydym ni'n gwerthfawrogi pob cyfraniad. Ymunwch â ni ar unrhyw un o'n llwyfannau creadigol-feirniadol wrth i ni rannu arbenigedd ac ysgolheictod. Helpwch i sbarduno ymchwil newydd wrth i ni fynd ati gyda'n gilydd i wella amodau cymdeithasol ac economaidd.

Cewch weld y cyfleoedd sydd ar y gweill ar ein tudalen digwyddiadau. Cewch bori drwy’r ôl-gatalog cynyddol o ddigwyddiadau ar ein sianel YouTube.