Peirianneg Drydanol ac Electronig
Mae peirianwyr trydanol ac electronig yn gweithio ar flaen y gad ym maes technoleg, gan ddatblygu a gwella'r dyfeisiau a'r systemau rydyn ni’n eu defnyddio i brosesu a throsglwyddo pŵer a gwybodaeth.
Ein graddau peirianneg drydanol ac electronig achrededig yw’r 1af yn y DU, yn ôl ein myfyrwyr yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2022.
Ar ben hynny, mae myfyrwyr yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau allanol a lleoliadau haf gyda’r UK Power Academy a Sefydliad Sgiliau Electronig y DU (UKESF) gan fod Prifysgol Caerdydd yn aelod o'r ddau gynllun.
Porwch drwy ein rhaglenni gradd ym maes peirianneg drydanol ac electronig.
Enw’r radd | Côd UCAS |
---|---|
Peirianneg Drydanol ac Electronig (BEng) | H605 |
Peirianneg Drydanol ac Electronig (MEng) | H601 |
Peirianneg Drydanol ac Electronig (BEng) | H606 |
Lawrlwytho ein prosbectws i raddedigion.