Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleoedd i gael cyllid

Dysgwch am y cyfleoedd cyllido allanol sydd ar gael i’ch helpu i dalu ffioedd dysgu a chostau byw.

Ysgoloriaethau’r Power Academy

Os ydych chi’n astudio rhaglen radd ym maes peirianneg drydanol ac electronig, gallwch wneud cais am ysgoloriaethau’r Power Academy. Mae’r ysgoloriaethau hyn yn cynnig cymorth ariannol ar gyfer ffioedd dysgu a chostau byw.

Ysgoloriaethau’r UKESF

Mae Sefydliad Sgiliau Electronig y DU yn cynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr israddedig dethol o’r DU a’r UE sy’n astudio peirianneg electronig mewn prifysgolion partner. Os ydych chi wedi ymrestru ar raglen radd ym maes peirianneg drydanol ac electronig, rydych chi’n gymwys i wneud cais am ysgoloriaeth.

Caiff ymgeiswyr llwyddiannus eu paru â chwmnïau noddi a gyfer ysgoloriaethau sy’n cynnwys:

  • bwrsariaethau blynyddol
  • lleoliadau gwaith â thâl dros yr haf
  • mentora diwydiannol
  • hyfforddiant datblygiad proffesiynol yng Ngweithdai Haf UKESF
  • cyfleoedd i feithrin perthynas gyda darpar gyflogwyr.

Gallwch wneud cais am ysgoloriaeth yn ystod unrhyw flwyddyn o’ch gradd, heblaw’r flwyddyn olaf.

Ymholiadau

Os bydd angen rhagor o wybodaeth neu gyngor arnoch am ysgoloriaethau, llenwch ein ffurflen ymholiadau a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.