Ewch i’r prif gynnwys

Geomicrobioleg a Biogeocemeg

Rydym yn astudio’r rhyngweithio rhwng bywyd, daeareg a chemeg amgylcheddol i egluro prosesau biogeocemegol sy'n bwysig ar gyfer cyfanedd-dra’r Ddaear drwy gydol hanes y Ddaear.

Mae'r grŵp Geomicrobioleg a Biogeocemeg yn uno gwyddonwyr trawsddisgyblaethol ym meysydd microbioleg, bioleg a geocemeg.

Rydym yn ymchwilio i'r cysylltiadau rhwng geomicrobioleg a biogeocemeg i egluro prosesau biogeocemegol allweddol sy'n cynnal ecosystemau’n lleol ac yn fyd-eang.

Ymchwil

Geomicrobioleg

Mae'r Uned Geomicrobioleg yn astudio ecosystemau amrywiol, o rai morol i rai daearol, o'r wyneb i'r biosffer morol a chyfandirol dwfn, sy'n rhychwantu'r Ddaear fodern i hynafol lle esblygodd bywyd.

Rydym yn defnyddio'r dystiolaeth i egluro sut mae bywyd microbaidd yn rhyngweithio â phrosesau daearegol, mwynau, metelau a’i gilydd i gynhyrchu a chynnal y prif gylchoedd biogeocemegol sy'n allweddol i gyfanedd-dra’r Ddaear.

Biogeocemeg

Rydym yn cyfuno arsylwadau geomicrobiolegol â geocemeg i ddatgloi hanes biogeocemegol y Ddaear. Mae'r gwaith amlddisgyblaethol hwn sy'n cysylltu’r Uned Geomicrobioleg â’r Uned Geocemeg, yn galluogi’r defnydd o ddulliau geocemegol cydraniad uchel ar gyfer ymchwilio i sut mae geomicrobioleg a geocemeg yn gweithio gyda'i gilydd yn yr amgylchedd.

Mae gan ymchwilwyr ddiddordeb mewn nodi a defnyddio signalau biogeocemegol fel procsis ar gyfer egluro sut mae bywyd yn rhyngweithio â geocemeg i greu a chynnal y biosffer byw.

Cyllid

Sosdian, S. COACTION - Characterisation of Ocean Acidification over Decadal Timescales in Fiji. NERC. Hydref 2018, £11,200

Andersen, M., Chi Fru, E., Millet, M. Isotope geochemistry of IOCG systems. Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Gorffennaf 2018-Chwefror 2019, £28,250

Sosdian, S. Coral reefs, ecosystem connectivity and plastic pollution: Past, present and future impacts on coral reef health. Sêr Cymru NRN Bangor. Mehefin 2018-Gorffennaf 2018, £9,375

Bagshaw, E. Dynamics of meltwater beneath the Greenland ice sheet. Sêr Cymru Bangor. Mehefin 2018-Rhagfyr 2018, £9,340

Bagshaw, E. Polar snow in a warming world. Cronfa Goffa Percy Sladen. Ebrill 2017-Mawrth 2018, £700

Bagshaw, E. Microbial community structure changes during temporal development of cryoconie holes. Antarctic Science Ltd.  Mehefin 2016-Mai 2019, £4,590

Bagshaw, E. WISECAM: Development and testing of a smartphone app for water quality monitoring. Sêr Cymru NRN Bangor. Rhagfyr 2015-Chwefror 2016, £500

Sosdian, S. Assess the impacts from oil palm expansion in Borneo on coral reef water quality and ecology suing environmental archives in coral reef skeletons. Sêr Cymru NRN Bangor. Ebrill 2016-Mehefin 2018, £20,000

Cwrdd â'r tîm

Arweinydd Grŵp

Staff academaidd

Myfyrwyr Ôl-raddedig

Staff cysylltiol

Cyhoeddiadau

Ysgolion

Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd

Rydym wedi ymrwymo i gyrraedd y safonau uchaf mewn ymchwil ac addysg. Rydym yn darparu amgylchedd cyfoethog ac amrywiol lle gall ein holl staff a myfyrwyr gyflawni eu potensial er budd cymdeithas.

Delweddau

Camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.