Cyrsiau

Mae ein graddau poblogaidd, sydd wedi'u hachredu, yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad addysgu sy'n cael ei arwain gan ymchwil, a hynny ar draws amrywiol ddisgyblaethau Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr.

Gweithiwch mewn amgylchedd dysgu cefnogol ac ysbrydoledig gyda'n staff cyfeillgar sy'n arbenigwyr yn eu meysydd gydag awch am ddysgu.

Mae ein cyfleusterau gwych ar gael i gefnogi eich astudiaeth, sy'n cynnwys labordai TG, technoleg flaengar a'n llong hymchwil ein hunain.

Sedimentary logging at Amroth

Israddedigion

Mae dosbarthiadau yn yr awyr agored, gwaith ymarferol a gwaith labordy i gyd yn rhan o’n profiad dysgu arloesol sydd wedi’i seilio ar ymchwil.

Sedimentary logging at Amroth

Cyrsiau ôl-radd a addysgir

Gallwn roi’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y diwydiannau geoamgylcheddol, geodechnegol, ymgynghori a rheoleiddio.

Sedimentary logging at Amroth

Ymchwil ôl-radd

Mae ein cymuned ôl-radd amrywiol yn cael ei chefnogi gan dros 40 o wyddonwyr sy’n flaenllaw mewn gwaith ymchwil rhyngwladol.

Geological mapping training in Cyprus

Diwrnod agored

Dewch i gwrdd â ni yn ein Diwrnod Agored nesaf.

Roedd cael blwyddyn ar gyfer gwaith maes a diwydiant yn fy nghwrs yn apelio'n fawr i fi. Treuliais amser yn gweithio gyda'r Wildlife Trust yn ymgyrchu ac yn addysgu'r cyhoedd am faterion morol. Fe wnes i gynnal arolygon rhynglanwol ar Ynysoedd Sili. Rwyf bellach yn cynghori'r llywodraeth ar ei rhwymedigaethau morol i greu a rheoli Ardaloedd Gwarchoedig Morol yn nyfroedd alltraeth y DU.

Rebecca Oliver, Tîm Safleoedd Gwarchodedig Morol, Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur