Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Rydym yn hynod falch o gymuned ein hysgol ddeintyddol, sy’n cynnwys staff a myfyrwyr o bob rhan o’r byd, sy’n dod â phrofiadau, safbwyntiau a syniadau gwerthfawr i’n hamgylchedd dysgu.
Rydym wedi ymrwymo i gynnig amgylchedd dysgu a gweithio cynhwysol ac ysbrydoledig lle mae pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei gefnogi, ei glywed a'i werthfawrogi.
Dathlu amrywiaeth
Mae ein gwyliau bwyd, a drefnir gan fyfyrwyr yn yr ysgol ddeintyddol gyda chefnogaeth staff y brifysgol, yn gyfle gwych i ddathlu gwyliau diwylliannol o bedwar ban byd.
Mae dathlu gwyliau fel Pride, Diwali, y Flwyddyn Newydd Leuadol, Dydd Gŵyl Dewi ac Eid yn gyfle gwych i’n staff a’n myfyrwyr ddysgu am wahanol ddiwylliannau, rhwydweithio gyda chyfoedion a blasu bwyd blasus.
Ymgysylltu â'r gymuned
Ein gweledigaeth yw bod pob myfyriwr, waeth beth fo'i gefndir neu ei brofiad personol, yn cael ei ysbrydoli i ystyried addysg uwch a gyrfa fel gweithiwr deintyddol proffesiynol.
Mae ein staff a’n myfyrwyr yn defnyddio eu hystod eang o arbenigedd i gefnogi a chyflwyno digwyddiadau hybu iechyd y geg mewn ysgolion a chymunedau lleol, gan gynnwys y rhai sy’n ddifreintiedig yn economaidd-gymdeithasol, ac sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y maes deintyddol. Rydym yn canolbwyntio ar weithdai atal iechyd y geg ac yn cyflwyno pobl ifanc i yrfaoedd ym maes deintyddiaeth i annog ehangu cyfranogiad.
Mae hyn yn cynnwys ein prosiect 'Talking Teeth', prosiect cydweithredol rhwng staff a myfyrwyr a sefydlwyd gan Dr Shannu Bhatia. Mae'r gwirfoddolwyr, sy'n cynnwys myfyrwyr deintyddol presennol, yn ymweld ag ysgolion cynradd i gyflwyno gweithdai iechyd y geg hwyliog a rhyngweithiol. Maent hefyd yn ymweld ag ysgolion uwchradd ledled Caerdydd i gyflwyno gyrfaoedd mewn deintyddiaeth, hylendid deintyddol a therapi deintyddol, a pham ei fod yn llwybr gyrfa mor werth chweil.
Gwobr Athena SWAN
Dyfarnwyd Arian Athena SWAN i ni yn 2021, a adeiladodd ar ein Gwobrau Efydd yn 2015 a 2010.
Dyfarnwyd ein Gwobr Arian Athena SWAN gyfredol i gydnabod ein hymrwymiad parhaus i ddarparu amgylchedd cefnogol i’r holl staff i gyflawni eu potensial, gan gydnabod y rôl y maent yn ei chwarae yn yr Ysgol, a’u cefnogi i gymryd perchnogaeth o’u gyrfa.
Gan edrych ymlaen at y dyfodol, byddwn yn gweithio tuag at:
- datblygu llwybrau datblygu gyrfa fel y gall staff dyfu’n broffesiynol a gwerthfawrogi’r rôl y maent yn ei chwarae yn yr Ysgol
- cefnogi datblygiad gyrfa a dilyniant yr holl staff ymchwil a myfyrwyr, i feithrin amgylchedd ymchwil cyfeillgar, cynhwysol a chefnogol
- hyrwyddo ethos ar gyfer dysgu gydol oes, cyflogadwyedd a lles yn y gweithle deintyddol
- sicrhau bod aelodau newydd o staff a’r rhai sy’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl absenoldeb estynedig yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi
- sicrhau bod myfyrwyr a staff yn teimlo eu bod yn rhan o ddiwylliant cyfeillgar, croesawgar a chynhwysol, sy’n gwerthfawrogi barn ac yn gwrando ar bryderon
Cefnogi ein staff a myfyrwyr
Mae lles ein staff a’n myfyrwyr yn bwysig iawn i ni, ac rydym wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd gweithio a dysgu lle teimlwn ein bod yn cael cefnogaeth a bod rhywun yn gwrando arnom bob amser.
Mae’r Ysgol wedi penodi Cyfarwyddwr Materion Staff a Myfyrwyr, Hyrwyddwr Dychwelyd i’r Gwaith, a Hyrwyddwr Anabledd i gefnogi staff a myfyrwyr ar draws ein Hysgol.
Mae tîm o gysylltiadau Urddas a Lles hefyd wrth law i gynnig cyngor ac arweiniad i staff, ac mae gennym system bwrpasol yn ei lle i gefnogi gofal bugeiliol ein myfyrwyr, gan gynnwys darparu tiwtoriaid personol ar gyfer pob myfyriwr.
Cydraddoldeb hiliol
Does dim lle i hiliaeth yn ein Hysgol, ac rydym wedi ymrwymo i beidio â goddef hiliaeth a gwahaniaethu.
Yn dilyn argymhellion gan ein gweithgor Cydraddoldeb Hiliol, rydym wedi ymwreiddio EDI yn ein strategaeth Ysgol.
Er enghraifft, mae pwyllgor cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) wedi'i sefydlu yn yr Ysgol, ac rydym wedi penodi Hyrwyddwr Cydraddoldeb Hiliol. Mae hefyd yn ofynnol i bob aelod o staff gwblhau modiwl hyfforddiant EDI a rhagfarn ddiarwybod.
Rydym yn aelod o Athena Swan, sy'n cydnabod ein hymroddiad i ddatblygu gyrfaoedd menywod mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth.