Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Nod ein rhaglenni yw eich herio’n academaidd ac yn glinigol, ac yn rhoi’r wybodaeth, yr hyder a’r profiad clinigol sydd eu hangen arnoch i ddilyn gyrfa lwyddiannus mewn deintyddiaeth.

Rydym wedi'n lleoli yn Ysbyty Deintyddol y Brifysgol ar gampws Parc y Mynydd Bychan, Prifysgol Caerdydd, safle 53 erw sydd wedi ei rannu gydag Ysbyty Athrofaol Cymru.

Fel aelod o Grŵp Russell elît prifysgolion y DU, ymfalchïwn yn y ffaith ein bod ar flaen y gad o ran addysg ddeintyddol, hyfforddiant clinigol ac ymchwil, a rhoi cyfle i'n myfyrwyr weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr yn eu priod feysydd a dysgu ganddynt.

Gweledigaeth a Strategaeth yr Ysgol 2022-2030

Mae ein Strategaeth yn nodi ein huchelgeisiau hirdymor ar gyfer yr Ysgol a’r rolau y mae pob un ohonom yn eu chwarae wrth gyflawni ein gweledigaeth strategol.