Ewch i’r prif gynnwys

Cynhadledd ar Led-ddargludyddion ac Opto-electroneg Integredig (SIOE)

Bydd y gynhadledd ar Led-ddargludyddion ac Opto-electroneg Integredig (SIOE) yn cael ei chynnal rhwng 14 ac 16 Ebrill 2023 ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae'n bleser mawr gennyf eich gwahodd i 36ain gynhadledd flynyddol SIOE. Bydd rhaglen y gynhadledd yn un gyffrous a fydd yn dangos datblygiad parhaus Opto-electroneg Integredig Lled-ddargludyddion, a hynny mewn cyd-destun anffurfiol er mwyn trafod ymchwil yn y maes hwn.

SIOE 2023


Bydd SIOE 2023 yn croesawu siaradwyr gwadd byd-enwog i roi cyflwyniadau craff ar faes eu harbenigedd, ynghyd â sesiynau dilynol a fydd yn tynnu sylw at ddatblygiadau newydd, deunyddiau newydd ac ymchwil gyffrous. Ein gobaith yw y gallwch chi ymuno â ni am gyflwyniadau, posteri a sesiynau trafod diddorol a fydd yn ysgogi'r meddwl ym maes ymchwil a chymwysiadau Opto-electroneg Integredig Lled-ddargludyddion sy’n tyfu’n gyflym.

Yr Athro Peter Smowton, Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, Prifysgol Caerdydd

Galwad am bapurau

Galwad am bapurau

Cyflwyno crynodebau a chyfraniadau i'r 36ain cynhadledd flynyddol SIOE a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd ym mis Ebrill 2023