Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil

Abacws Research page

Ystyriwyd bod 96% o'n hymchwil yn 'arwain y byd' neu’n 'ardderchog yn rhyngwladol' yn asesiad y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn 2021.

Mae ein hymchwil yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol ac mae ein gwaith yn mynd i'r afael â heriau cymdeithasol a busnes y byd go iawn. Mae Cyfrifiadureg wedi gweld twf cyflym a sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wrth i bobl ddefnyddio technoleg yn eu bywydau bob dydd a'r heriau a'r cyfleoedd sy'n dod i'r amlwg yn sgîl hyn.

Yn ddiweddar rydym wedi:

  • cymryd rhan mewn prosiect a ariannodd y Cyngor Ymchwil Feddygol i ddatgelu 'olion bysedd' newydd clefyd yr ymennydd
  • cydweithio ag un o'n partneriaid yn y diwydiant, Airbus, i greu ffordd newydd o ganfod a lladd seiberymosodiadau yn awtomatig ar liniaduron, cyfrifiaduron a dyfeisiau clyfar
  • gweithio gydag amgueddfeydd ledled Ewrop (gan gynnwys yr Amgueddfa Hanes Natur yn Llundain) i greu proses ddigideiddio i gasglu gwybodaeth ffisegol o sbesimenau bregus mewn amgueddfeydd. Bydd gwyddonwyr yn gallu defnyddio hyn wrth iddynt fodelu organebau'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol (wrth iddynt weithio ar fioamrywiaeth, rheoli clefydau a newid yn yr hinsawdd).

Mae ein tîm staff sy’n tyfu a’n myfyrwyr yn rhan hanfodol o'n llwyddiant. Maent wedi'u lleoli yn ein cyfleusterau newydd trawiadol o'r radd flaenaf (sy'n ganolog i ganolfan arloesi gwerth miliynau o bunnoedd Caerdydd) gyda mynediad at galedwedd a meddalwedd flaengar.

Mae ein perthynas gydweithredol agos â’r diwydiant a phartneriaid academaidd wedi cyfrannu at effaith fyd-eang ein hymchwil...
Pennaeth yr Ysgol, Yr Athro Stuart Allen

Meysydd ymchwil

Mae ein gweithgarwch ymchwil wedi’i drefnu yn dri maes blaenoriaeth sy'n canolbwyntio ar dueddiadau sy'n dod i'r amlwg yn ein disgyblaeth sy'n datblygu'n gyflym:

Deallusrwydd artiffisial a dadansoddeg data

Deallusrwydd artiffisial a dadansoddeg data

Mae ein hymchwil yn ymchwilio i’r ffordd y gall cyfrifiaduron gyflawni tasgau roedd ond pobl yn gallu eu gwneud cyn hyn, yn ogystal â’r atebion posibl i heriau uchelgeisiol a phellgyrhaeddol.

Seiberddiogelwch a phreifatrwydd

Seiberddiogelwch a phreifatrwydd

Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar gyfuno gwyddorau data/dadansoddeg a dulliau DA ac yn ystyried beth gall trin seiberddiogelwch dynol a thechnegol ei ddweud wrthym am risgiau seiber, cudd-wybodaeth am fygythiadau, canfod ymosodiadau ac ymwybyddiaeth sefyllfaol.

Cyfrifiadura sy'n seiliedig ar bobl

Cyfrifiadura sy'n seiliedig ar bobl

Mae ein hymchwil yn ymchwilio i’r ffordd y gall cyfrifiaduron gefnogi ein bywydau bob dydd yn well, a sut y gallai systemau sy'n dod i'r amlwg effeithio ar unigolion, cymunedau a’r gymdeithas yn gyffredinol.

Cyfrifiadura gweledol

Cyfrifiadura gweledol

Mae ein hymchwil yn ystyried y delweddau sy'n cael eu dal bob dydd a sut y gall cyfrifiaduron eu dadansoddi'n effeithiol a dod o hyd i’r ystyr fydd yn ychwanegu gwerth ac yn gwneud gwahaniaeth.

Effaith amlddisgyblaethol

Mae ein gwybodaeth a'n harbenigedd yn cael eu cymhwyso mewn ffyrdd arloesol er mwyn helpu i yrru'r agenda ymchwil yn ei blaen ac i helpu ein partneriaid mewn diwydiant a’r sector cyhoeddus i ddatrys problemau. Mae ein gwaith yn cael effaith ar nifer o feysydd amrywiol:

  • Gofal iechyd (systemau cofnodion cleifion a delweddu gwybodaeth)
  • amddiffyn
  • yr amgylchedd (rheoli bioamrywiaeth a systemau gwybodaeth daearofodol)
  • telathrebu (dylunio rhwydweithiau cyfathrebu a sefydliadau rhithiol)
  • dylunio peirianneg (yn enwedig adeiladu siapiau solet am yn ôl)
  • cyfrifiadura perfformiad uchel a grid (prosesu gwasgaredig, rheoli gwybodaeth a delweddu ymgolli)

Rhagor o wybodaeth am ein heffaith

Rhagor o wybodaeth

Network ports and cables

Cyfleusterau ymchwil

Mae gennym bortffolio ymchwil sy'n tyfu'n gyflym ac amrywiaeth o gyfleusterau ymchwil a systemau.

Connections

Partneriaid ymchwil

Mae'r mwyafrif o'n gwaith ymchwil yn rhyngddisgyblaethol ac rydym yn cydweithio gydag Ysgolion Academaidd Prifysgol Caerdydd a phrifysgolion blaenllaw eraill.

Cysylltu â ni