Ewch i’r prif gynnwys

Yr Academi Meddalwedd Genedlaethol

National Software Academy
National Software Academy

Canolfan ar gyfer rhagoriaeth ym maes peirianneg meddalwedd yng Nghymru.

Sefydlwyd yr Academi Meddalwedd Genedlaethol yn 2015 fel partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru ac arweinwyr yn y diwydiant. Ei nod yw rhoi sylw i'r diffyg peirianwyr meddalwedd cymwysedig, sy’n barod ar gyfer y diwydiant, drwy gynhyrchu graddedigion gyda phrofiad diwydiannol y bydd galw amdanynt ac a fydd yn cael eu hadnabod fel arweinwyr yn eu maes.

Mae'r Academi yn cynnig gradd israddedig arloesol mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol sy'n canolbwyntio ar y sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ymarferol sydd eu hangen i fod yn beiriannydd meddalwedd masnachol effeithiol o'r cychwyn cyntaf.  Mae’r academi hefyd yn cynnig MSc Peirianneg Meddalwedd sydd wedi’i dylunio ar gyfer graddedigion o gefndiroedd amrywiol sydd â rhywfaint o brofiad o raglennu er mwyn eu galluogi i ennill sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ymarferol i fod yn beiriannydd meddalwedd masnachol.

Mae nodweddion allweddol yr Academi yn cynnwys ffocws ar arferion gweithio yn y diwydiant, amgylchedd gwaith bywiog a ffocws ar heriau 'byd go iawn'.

Students sitting at one large table in classroom, a laptop or desktop computer each, whiteboard covered with diagrams

Gweledigaeth yr academi yw cyflwyno graddau mewn peirianneg meddalwedd sy'n canolbwyntio ar y diwydiant. Bwriad y graddau hyn fydd rhoi i fyfyrwyr brofiad academaidd o dechnolegau perthnasol a blaengar o fewn fframwaith diwydiannol, gan ddefnyddio adnoddau a thechnegau sydd wedi ennill eu plwyf yn y diwydiant i hwyluso mynediad i'r farchnad waith.

Cysylltu

Darllenwch am y radd BSc Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol a'r MSc Peirianneg Meddalwedd neu cysylltwch â'r tîm israddedig yn yr Ysgol i gael rhagor o wybodaeth:

School of Computer Science and Informatics (UG enquiries)