Ewch i’r prif gynnwys

Rhyngwladol

Ein cymuned ryngwladol ac amrywiol o staff a myfyrwyr sy'n llywio ein rhagoriaeth addysgu ac ymchwil. Gyda'n gilydd rydym yn canfod atebion i'r heriau sy'n wynebu ein byd heddiw.

Cysylltu â’n cymuned ryngwladol gynhwysol

Mae Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg yn gartref i gymuned amrywiol a bywiog o fyfyrwyr a staff rhyngwladol. Mae hyn yn creu cymysgedd gwych o brofiadau, prosesau meddwl a syniadau sy'n llywio a gwella ein addysgu a’n hymchwil mewn modd unigryw.

Gweithio mewn partneriaeth

Mae gennym gytundebau gyda dros 50 o sefydliadau ar draws y byd, megis Prifysgol Xiamen yn Tsieina, yr Indian Institute of Science yn Bangalore, yr India, a Phrifysgol Rutgers yn UDA, er mwyn hwyluso prosesau cyfnewid rhwng myfyrwyr a staff. Ein nod yw rhannu ein gwybodaeth, cyfleusterau a’n sgiliau gydag arbenigwyr eraill ar draws y byd i fynd i'r afael â heriau allweddol.

Er enghraifft, mae gwyddonwyr o’r Ysgol Cemeg yn datblygu cydweithrediadau ymchwil strategol allweddol â'u cymheiriaid ym Mhrifysgol Zhejiang, Tsieina i fynd i'r afael â heriau byd-eang allweddol o ran llygredd aer, llygredd dŵr ac ynni glân.

Cyfle i brofi bywyd mewn amgylchedd wahanol

Gellir astudio llawer o’n pynciau gyda blwyddyn atodol dramor yn un o’n sefydliadau partner tramor. Gan ddibynnu ar y radd a ddewiswch, gall myfyrwyr ddewis o amrywiaeth o sefydliadau partner ar draws Ewrop, Gogledd America, Affrica, Asia ac Awstralasia i gael y profiad o astudio a byw mewn amgylchedd hollol wahanol.

Rhoi theori ar waith

Students on field trip
Myfyrwyr Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr ar daith maes.

Rydym yn annog cyfranogiad mewn peth wmbredd o waith maes, sy'n caniatáu myfyrwyr i roi'r theori y maent wedi'i ddysgu ar waith. Ar hyn o bryd, gall myfyrwyr Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr ymweld ag o leiaf dau leoliad tramor, gan ymchwilio i bynciau megis cynaliadwyedd adnoddau dŵr y Swistir drwy archwilio rhewlifoedd yn yr Alpau Swisaidd.

Dysgu iaith newydd

Gall dysgu iaith arall wella cyflogadwyedd ein myfyrwyr i raddau helaeth, a dyma ein rheswm dros gynnig rhai rhaglenni sydd â dysgu iaith yn rhan ohonynt, cyn i fyfyrwyr brofi eu sgiliau yn ystod blwyddyn dramor. Mae ein rhaglenni Peirianneg sy'n cynnwys blwyddyn yn Sbaen, Ffrainc neu’r Almaen, er enghraifft, yn boblogaidd iawn gyda myfyrwyr sy’n mwynhau her.

Gwneud gwahaniaeth

Mae gan bob un o'n myfyrwyr y cyfle i wneud gwahaniaeth ar lwyfan rhyngwladol, yn ogystal ag ennill sgiliau ymarferol drwy gyfrwng Canolfan Cyfleoedd Byd Eang y Brifysgol. Yn ddiweddar, gwirfoddolodd Myfyrwyr Pensaernïaeth a Pheirianneg i helpu i adeiladu ysbytai ac ysgolion gyda chymunedau lleol yn Affrica, tra bu grŵp o fyfyrwyr Daeareg ar leoliad yng Nghanolbarth America gydag Awdurdod Camlas Panama.