Ewch i’r prif gynnwys

Is-gwmnïau

Rydym yn trawsffurfio ymchwil sy'n arwain y byd i mewn i fusnesau gwerthfawr trwy greu is-gwmnïau.

Yn cydweithio gyda Fusion IP, rydym yn adeiladu busnesau llwyddiannus sy'n gwneud elw trwy'n gweithgareddau eiddo deallusol.

Uchafwbyntiau ein his-gwmnïau

Q Chip logo

Q-Chip

Mae Q Chip yn defnyddio platfform MicroPlant i ddatblygu cynhyrchion therapiwtig.

Science Made Simple logo

Science made simple

Mae menter 'Science made simple' yn creu sioeau rhyngweithiol trawiadol sy'n defnyddio gwyddoniaeth fel ysbrydoliaeth.

QMC Instruments logo

QMC 

Mae QMC Instruments Ltd yn datblygu offer ar gyfer canfod a phrosesu ymbelydredd electromagnetig ar donfeddau sy'n amrywio o ficrodonnau i lefel sydd bron yn is-goch (infrared).

Fault Current Limited

Mae Fault Current Ltd yn anelu at ddatblygu a chynhyrchu cyfres o gynhyrchion diogelu ar gyfer rhwydweithiau dosbarthu pŵer trydanol.

Mesuro

Mae Mesuro Ltd yn gwmni cam cynnar sy'n datblygu ymagweddau newydd ar gyfer y diwydiant cyfathrebu symudol.  

Cafodd Gwobr Effaith Rhanbarthol 2012 ei dyfarnu i Mesuro am ei waith gydag Ysgol Peirianneg Caerdydd yn masnacheiddio cenhedlaeth newydd o systemau mesur ar gyfer y diwydiant cyfathrebu di-wifr RF. Mae'r fideo Saesneg isod yn rhoi mwy o wybodaeth am y prosiect.