Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Rydym yn adnabyddus yn rhyngwladol am ragoriaeth o ran ymchwil ac addysgu, arloesi, ymgysylltu diwydiannol, datrysiadau cynaliadwy ac effaith gymdeithasol.

Mae'r Coleg yn ymfalchïo yn ei bortffolio amrywiol o weithgareddau ymchwil ac addysgu sydd â'r nod o greu cyfeiriadau ymchwil byd-eang cyffrous a rhoi profiad cyfoethog i fyfyrwyr.

Mae'r Coleg yn cynnwys saith Ysgol academaidd:

Mae ein hymchwil sy'n gosod agendâu yn cael ei sbarduno gan ymholi sylfaenol. O ymchwilio i'r cosmos i berfeddion y ddaear, o'r atmosffer i'r cefnforoedd, o ynni i iechyd, o gatalyddu i beirianneg meinwe, o fellt i ddeunyddiau. Caiff ymchwil ddamcaniaethol ei drosi'n gymwysiadau ymarferol a masnachol ar draws y Coleg. Rydym yn creu gwybodaeth newydd ac yn hyfforddi'r cenedlaethau nesaf o beirianwyr, penseiri a gwyddonwyr.

Myfyrwyr Peirianneg
Myfyrwyr Peirianneg

Rydym yn galluogi ei fyfyrwyr i fod yn raddedigion cyflogadwy a medrus, sy'n dangos chwilfrydedd ac arloesedd. Un o gryfderau mawr rhaglenni gradd y Coleg yw'r cymwysterau proffesiynol y maent yn arwain atynt. Rydym yn darparu profiad unffurf, cyfoethogol o ansawdd uchel i fyfyrwyr ac yn eu cefnogi wrth iddynt symud at ddysgu annibynnol. Rydym yn recriwtio myfyrwyr o amrywiaeth o gymunedau, gwledydd a chymdeithasau.

Ategir hyn gan bartneriaethau diwydiannol cryf y Coleg, lle rydym yn meithrin cysylltiadau â diwydiant er mwyn trosi ein hymchwil i mewn i ddatrysiadau go iawn a fydd yn cael effaith gymdeithasol ac economaidd.

Rydym hefyd yn ymrwymedig i ddatblygu staff a chyfle cyfartal, er enghraifft, trwy adeiladu ar ein dyfarniadau Siarter Athena SWAN i roi hwb pellach i yrfaoedd menywod ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).