Ewch i’r prif gynnwys

Themâu ymchwil

Ein nod yw datblygu ein hymchwil sy'n arwain y byd, gan gyflawni rhagoriaeth yn y ddisgyblaeth a nodwedd ryngddisgyblaethol, cynyddu ein proffil rhyngwladol a chreu traweffaith yn fyd-eang.

Er mwyn gwireddu’r uchelgais ymchwil hwn mae Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd wedi strwythuro ei ymchwil o amgylch pum prif thema eang gyda thystiolaeth o ragoriaeth sylfaenol:

DNA Sequencing

Canser

Deall sail moleciwlaidd, diagnosis, atal a thriniaeth canser, a’i drosi yn ofal ac iachâd gwell ar gyfer cleifion canser.

Biological samples

Biosystemau integreiddiol

I gyflwyno arloesi dan arweiniad ymchwil ar draws yr holl wyddorau bywyd (‘moleciwlau i’r biosffer’) drwy wyddor integreiddiol sy’n gwneud gwahaniaeth diriaethol i’n gymdeithas a’r blaned

Petri dish

Imiwnoleg, Heintiau a Llid

Ein huchelgais i gyflwyno manteision cyhoeddus a chleifion drwy adnabod yr achosion o glefyd a strategaethau triniaeth newydd.

Mecanweithiau Bywyd

Mechanisms of Living Systems

Technolegau a dulliau gweithredu i ddatgelu ‘rheolau bywyd’ sy’n sail i’r holl systemau byw – o foleciwlau i ecosystemau.

Oherwydd bod datblygu dulliau gweithredu peirianyddol addysgiadol yn rhan annatod o’r thema hon, yn amlwg, ceir cysylltiadau cryf â chydweithwyr o Goleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. At hynny, mae ymgysylltu â chymdeithas yn hanfodol i wireddu effaith ein gwaith ymchwil – nod a ddatblygir yn sylweddol drwy gydweithio’n agos â phartneriaid yng Ngholeg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.

Is-themâu

Mae’r thema’n canolbwyntio ar bedair is-thema rhyng-gysylltiedig.

Atebion amgylcheddol ar gyfer byd sy’n newid

Mae angen atebion rhyng-ddisgyblaethol ar heriau amgylcheddol byd-eang a lleol.

Mae ein gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall mecanweithiau sylfaenol i ganiatáu i ni ddatblygu atebion cynaliadwy sy’n cydnabod y berthynas gymhleth rhwng organebau a’u hamgylchedd. Y nod yw sicrhau diogelwch bwyd a chadw bioamrywiaeth drwy hyrwyddo ecosystemau sy’n gallu gwrthsefyll y byd sy’n newid gan gynnal aer glân, priddoedd llawn maetholion wedi'u strwythuro'n dda a chyflenwad dŵr cynaliadwy.

Un Blaned – Un Iechyd

Mae Un Iechyd yn cydnabod y dibyniaethau rhyng-gysylltiedig rhwng bodau dynol, anifeiliaid, planhigion ac ecosystemau. Wrth ystyried adnoddau cyffredin, megis dŵr, sy’n cefnogi eic amgylchedd naturiol, amaethyddiaeth a phoblogaeth, neu wrth fynd i’r afael â’r problemau ofnadwy sy’n codi wrth ddatblygu lleoedd cynaliadwy neu ymdrin ag Ymwrthedd Gwrthficrobaidd a Heintiau (rhwydwaith CURE), bydd angen trin yr amgylchedd fel un sydd â chysylltiad agos ag iechyd pobl.

Systemau a Bioleg Ragfynegol

Gellir datblygu dulliau gweithredu systemau ym mhob agwedd ar ymchwil y gwyddorau bywyd megis modelu cyflyrau afiechydon, epidemioleg ac aflonyddiadau amgylcheddol. Er mwyn cysylltu'n briodol ar draws graddfeydd, o foleciwl i ecosystem, mae angen datblygu modelau mathemategol neu gyfrifiadurol sy'n caniatáu i ni ragfynegi ymddygiad systemau biolegol. Mae modelau o'r fath yn hanfodol i nodi perthnasoedd achosol a datrys mecanweithiau sylfaenol, gan gynnig fframweithiau i gynhyrchu a phrofi damcaniaethau cysyniadol, yn ogystal â dylunio a rhagfynegi ffyrdd o drin systemau cymhleth er mwyn cyflawni canlyniadau penodol.

Technolegau arloesol am oes

Er mwyn gyrru gwaith ymchwil biolegol yn ei flaen a chynnig atebion newydd i broblemau biofeddygol ac amgylcheddol, rydym yn datblygu technolegau trawsnewidiol meintiol newydd, gan gynnwys dulliau bioddelweddu newydd, dadansoddeg data mawr, gwybodeg, biosynhwyryddion a diagnosteg.

Arweinydd Thema

Yr Athro Peter Kille

Yr Athro Peter Kille

Cyfarwyddwr Mentrau Biolegol

Email
kille@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4507

Arweinwyr Cyswllt Thema

Yr Athro Stan Marée

Yr Athro Stan Marée

Professor

Email
marees@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4486
Magnetic Resonance Imaging MRI

Y meddwl, yr ymennydd, a niwrowyddorau

Ein nod yw gweithredu piblinellau drosiadol ‘synaps i gymdeithas’ i gyflwyno rhaglen ymchwil integredig a chanolbwyntio strategol.

Medical results and stethoscope

Iechyd y boblogaeth

Hybu iechyd a lles drwy geisio mynd i’r afael â’r materion iechyd cyhoeddus mawr yng nghymdeithas heddiw.

Bwriad y themâu yw cefnogi amcanion strategaeth y Brifysgol. Y rhain fydd prif ysgogwyr ymchwil, a byddant yn hwyluso datblygu ac integreiddio ymchwil ar draws sbectrwm llawn gweithgareddau’r Coleg.

Bydd y themâu yn:

  • galluogi’r Coleg i ddatblygu màs critigol, cydlyniad a graddfa
  • darparu rhagoriaeth ar draws amrywiaeth eang o weithgareddau ymchwil y Coleg
  • nodi, adeiladu a chefnogi cydweithio rhyng-Golegol a mewn-Golegol
  • meithrin ymchwil lle mae gan y Coleg botensial i fod yn flaenllaw yn fyd-eang
  • nodi a datblygu synergeddau ymchwil rhyngddisgyblaethol
  • cynorthwyo datblygu a gwella cysylltiadau rhyngwladol
  • hwyluso ymgysylltu gwell gyda chyllidwyr allanol
  • darparu ffocws wrth fynd ar drywydd strategaeth ‘Ffordd Ymlaen’ Prifysgol Caerdydd.

Arweinwyr themâu

Mae gan bob thema ‘Arweinydd’ sy’n goruchwylio wedi’i benodi gan Ddeon Ymchwil y Coleg.

  • Biosystemau Integreiddiol - Yr Athro Peter Kille (Ysgol y Biowyddorau)
  • Y meddwl, yr Ymennydd, a Niwrowyddorau - Yr Athro Jeremy Hall (Ysgol Seicoleg)
  • Heintiau, Llid ac Imiwnedd - Yr Athro Simon Jones (Ysgol Meddygaeth)
  • Canser - Yr Athro John Chester (Ysgol Meddygaeth)
  • Iechyd y Boblogaeth - Yr Athro Shantini Paranjothy (Ysgol Meddygaeth)

Cancer

Yr Athro Awen Gallimore

Yr Athro Awen Gallimore

Professor

Siarad Cymraeg
Email
gallimoream@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 7012

Developmental and Regenerative Biology

Dr Mike Taylor

Dr Mike Taylor

Reader

Email
taylormv@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5881

Immunology, Infection and Inflammation

Yr Athro Andrew Godkin

Yr Athro Andrew Godkin

Clinical Professor

Email
godkinaj@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 7003

Mechanisms of Living Systems

Yr Athro Peter Kille

Yr Athro Peter Kille

Cyfarwyddwr Mentrau Biolegol

Email
kille@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4507

Mind, Brain and Neuroscience

Yr Athro Krishna Singh

Yr Athro Krishna Singh

Professor

Email
singhkd@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44(0)29 2087 4690

Population Health

Dr Liba Sheeran

Dr Liba Sheeran

Darllennydd: Ffisiotherapi

Email
sheeranl@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 206 87757