Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Treialon Ymchwil

CTR Image

Ein nod yw gwella iechyd a lles cymdeithas drwy ragoriaeth gydnabyddedig mewn treialon clinigol ac astudiaethau eraill wedi’u cynllunio’n dda.

Y Ganolfan ar gyfer Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yw’r grŵp mwyaf o staff treialon clinigol academaidd yng Nghymru. Mae'r ganolfan yn mynd i'r afael â’r clefydau mawr, a phryderon iechyd ein cyfnod ni, gan gynnwys ymwrthedd cynyddol i wrthfiotigau, diagnosis canser cynnar a sut i gael gwared ar anghydraddoldebau iechyd.

Mae'r Ganolfan yn cyflawni hyn drwy ffurfio partneriaethau gydag ymchwilwyr, a thrwy adeiladu cysylltiadau parhaus gyda'r cyhoedd, y mae eu cyfranogiad yn hanfodol ar gyfer llwyddiant yr astudiaethau.

Mae'r Ganolfan yn cynnwys tair uned treialon clinigol sydd wedi’u cofrestru gyda’r UKCRC a’i Gwasanaeth Cynllunio a Gweithredu Ymchwil yn y De-ddwyrain.

Mae’r Ganolfan yn parhau i ddatblygu treialon ar gyfer dyfeisiau meddygol ac mae’n sefydlu portffolio o ymchwil ar ddulliau ystadegol a’r person hŷn.

Mae’r Ganolfan ar gyfer Treialon Ymchwil yn cael ei hariannu’n gyhoeddus i alluogi ymchwil cymwysedig sy'n llywio polisi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac yn y DU, ac mae ar hyn o bryd yn rhedeg astudiaethau ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol. Ariennir y Ganolfan drwy Lywodraeth Cymru gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac Ymchwil Canser y DU.

Cysylltwch â ni

Mae'r Ganolfan yn barod i ystyried unrhyw astudiaeth neu syniad am dreial sydd wedi’u cynllunio'n dda, hyd yn oed rhai sydd y tu hwnt i’w meysydd ymchwil presennol. I gael rhagor o wybodaeth am gydweithio gyda'r tîm, cysylltwch:

Canolfan Treialon Ymchwil