Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil

Scientist supporting cancer research.

O Seicoleg i Feddygaeth, mae effaith ein hymchwil yn parhau i ymestyn ymhell y tu hwnt i'r cyfnodolion o safon fyd-eang y caiff ei chyhoeddi ynddynt.

Mae Grŵp Ymchwil Trais a'r Gymdeithas o dan ourchwyliaeth yr Athro Jonathan Shepherd, er enghraifft, yn cynnwys academyddion yn yr Ysgol Ddeintyddiaeth. Mae ei model llwyddiannus ar gyfer lleihau trais yn gysylltiedig ag alcohol wedi dylanwadu ar bolisi yn y DU ac wedi'i mabwysiadu gan lywodraeth a heddlu'r Iseldiroedd.

Mae ein Sefydliadau Ymchwil blaenllaw wedi gwneud cynnydd aruthrol o ran brwydro yn erbyn canser ac afiechydon iechyd meddwl.

Ar ôl llwyddo i sicrhau un o brif Wobrau Strategol Ymddiriedolaeth Wellcome gwerth £5.2M, mae'r Athro Mike Owen, Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, wedi casglu arbenigwyr ynghyd o'r Ysgol Feddygaeth, yr Ysgol Seicoleg a'r Ysgol Biowyddorau. Maent bellach wedi cychwyn ar brosiect mentrus i ddatblygu ymagwedd newydd ac unigryw at ddeall iechyd meddwl; gan gyfuno modelau ymchwil cellog, anifeiliaid a dynol.

Gan weithio allan o'r Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd (ECSCRI), dadlennodd yr Athro Alan Clarke a'i dîm strategaeth newydd yn ddiweddar i frwydro yn erbyn canser. Mae ymchwil y tîm yn mabwysiadu ymagwedd newydd at drin canser: cred mai dim ond nifer fach o gelloedd canser sy'n rheoli ei dyfiant, ac felly mae'n ceisio dod o hyd i ffordd o dargedu'r celloedd hyn er mwyn torri'r cyflenwad bywyd i'r tiwmor.

Un arall sy'n arwain y ffordd gyda'i ymchwil arloesol yw Dr Arwyn Jones o'n Hysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, sy'n gweithio ochr yn ochr â 13 o bartneriaid Ewropeaidd i helpu troi moleciwlau therapiwtig newydd yn feddyginiaethau effeithiol. Arloeswr arall yn ei faes yw'r Athro Nick Topley o'r Ysgol Feddygaeth. Mae wedi datblygu ffordd arloesol o ganfod haint facteriol mewn cleifion dialysis gan ddefnyddio eu system imiwnedd eu hunain. Bydd hyn yn helpu meddygon i wneud diagnosis mwy cywir ac amserol ar gyfer cleifion sy'n gwella o fethiant yr arennau.

Mae llawer o Ysgolion a sefydliadau ymchwil y Coleg yn cael eu cydnabod fel awdurdodau yn eu meysydd priodol, gan gynnwys yr Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd a'r Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg.

Mae'r Coleg yn ymgysylltu â'r byd academaidd - gartref a thramor - busnes, llywodraeth, ysgolion a'r gymuned, drwy ystod eang o weithgareddau a digwyddiadau. Mae cysylltiadau cadarn gyda sefydliadau lleol sy'n hyrwyddo amrywiaeth o wyddorau a pheirianneg, elusennau, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn gwneud Y Coleg yn amgylchedd ymatebol a chydgysylltiedig i wneud eich gwaith ymchwil ynddo.