Ewch i’r prif gynnwys

Rhyngwladol ac ymgysylltu

Mae Prifysgol Caerdydd yn Brifysgol ryngwladol flaenllaw, wedi'i lleoli yng Nghymru ac o fudd i Gymru a'i chymunedau.


Mae gennym gysylltiadau ffurfiol â dros 35 o wledydd, gan gynnwys 38 o bartneriaethau gyda Tsieina, 16 yn yr UD a 12 gyda Malaysia.

Rydym yn bartneriaid gyda Phrifysgolion Santander a Chomisiynau Fulbright a Marshall, sy'n caniatáu i ddysgu a chydweithrediadau eraill i ffynnu yng Ngogledd a De'r Amerig.

Mae cymuned myfyrwyr rhyngwladol ffyniannus y Brifysgol, sy'n cynnwys dros 3,500 o fyfyrwyr o 100 o wledydd gwahanol, yn chwarae rhan bwysig iawn ym mywyd rhyngwladol ein sefydliad a ledled Cymru.

Mae nifer gynyddol o fyfyrwyr yn ymgymryd â chyfnod astudio dramor yn flynyddol fel rhan o'u cwrs gradd. Mae hyn yn eu helpu i feithrin ymwybyddiaeth ddiwylliannol ac yn eu gwneud yn fwy atyniadol i gyflogwyr. Rydym hefyd yn croesawu cannoedd o fyfyrwyr o gyfandir Ewrop a thu hwnt ar raglenni astudio.

Mae gan Gaerdydd fwy na 160,000 o gyn-fyfyrwyr mewn dros 180 o wledydd o amgylch y byd. Mae ein graddedigion yn llysgenhadon dros Brifysgol Caerdydd, Cymru a'r DU. Yn aml, maent yn chwarae ran bwysig yn datblygu cysylltiadau diplomatig a chysylltiadau masnachu da. Rydym hefyd yn ymgysylltu gyda'r cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt.

Mae'r Coleg yn cydnabod pwysigrwydd cyfathrebu am wyddoniaeth, nid yn unig fel modd o addysgu'r cyhoedd am ganfyddiadau ymchwil, ond hefyd fel ffordd o gynnwys y cyhoedd yn y ddadl ynghylch materion amserol a hyrwyddo trafod er mwyn llywio'r broses ymhellach.

Rydym wedi ymrwymo i gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o'r Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd, Rydym yn datblygu perthnasoedd gyda chymunedau a sefydliadau lleol ac yn ffocysu ar ein hunaniaeth gymdeithasol gorfforaethol. Mae'r rhain oll yn elfennau allweddol o'n gwaith ymgysylltu.