Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Mae Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd yn gymuned academaidd fywiog, sy'n darparu ymchwil arloesol a chyfleusterau dysgu o safon uchel.

Cymerwn agwedd integredig ymhob agwedd o iechyd ac ymchwil biowyddonol. Rydym yn denu canlyniadau uchel eu parch yn rhyngwladol ar gyfer pob cam o'r broses ymchwil meddygol; o wyddoniaeth y labordy i ddulliau diwygio ymarfer meddygol a gofal iechyd. Dyma'r Coleg mwyaf yn y Brifysgol gyda'i 2000 o aelodau staff a 7000 o fyfyrwyr.

Mae'r Coleg yn uno saith Ysgol gyda'i gilydd sydd â chryn gryfder mewn ymchwil a dysgu, nid yn unig yng Nghymru ond yn y DU ac y fyd-eang.

Mae ein Hysgolion Academaidd yn cynnwys:

Astudiaethau Gofal Iechyd
Y Biowyddorau
Deintyddiaeth
Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol
Meddygaeth
Optometreg a Gwyddorau'r Golwg
Seicoleg

Ein bwriad yw creu canolfan o ragoriaeth academaidd a chlinigol sy'n arwain y byd, sy'n cael ei hadnabod am ei haddysg holistaidd sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr. Rydym hefyd yn pwysleisio hyfforddiant arbenigol sy'n anelu at wella iechyd a lles cymdeithas. Ymgymerir â phob agwedd ar ymchwil iechyd a biowyddonol mewn modd integredig. Cyflawnir canlyniadau a berchir yn rhyngwladol ym mhob cam o'r broses ymchwil feddygol, o wyddoniaeth y labordy i wella ymarfer meddygol a gofal iechyd.

Ein hymchwil

Fe wnaethon ni chwarae rhan flaenllaw yng nghanlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014. Mae Prifysgol Caerdydd yn ail yn y DU am ei hymchwil mewn seicoleg, seiciatreg a niwrowyddoniaeth -o ddarganfod bacteria newydd sy'n wrthiannol i wrthfiotigau; creu triniaethau newydd ar gyfer canserau leukaemia, y fron a'r brostad; i wella triniaeth dialysis. Rydym yn 8fed yn y DU am ein hymchwil mewn meddygaeth glinigol gyda 80% yn cael ei ystyried yn 'rhagorol' yn ei effaith o ran cyrhaeddiad ac arwyddocâd. Mae hyn yn wir hefyd am ein hymchwil yn y gwasanaethau iechyd a gofal cynradd. Diolch i ragoriaeth gyson ein hymchwil, rydym ymhlith y 4 gorau yn y DU (4ydd). Mae'r ymchwil hwn yn cwmpasu cyfraniadau o amrywiaeth o feysydd, yn cynnwys fferylliaeth, deintyddiaeth, gwyddorau iechyd, meddygaeth, optometreg a gwyddorau'r golwg.

Effaith

Gwelir effaith ein gwaith mewn amrywiaeth o weithgareddau, o gyflwyno therapïau a diagnosteg newydd, arwain newid mewn ymarfer a safonau a sbarduno mentrau polisi cyhoeddus. Mae rhagoriaeth ymchwil yn arbennig o nodedig yn y Gwyddorau Biolegol. O ddeall sut mae niwronau'n tyfu a'r prosesau sylfaenol sy'n achosi datblygiad canser; i archwilio geneteg yr orangutan, eliffantod, pandaod a rhywogaethau eraill sydd mewn perygl.

Themâu

Rydym wedi llunio pum thema ymchwil eang fydd yn arwain ein hymchwil ac yn hwyluso datblygiad ac integreiddiad ymchwil ar draws holl sbectrwm gweithgareddau'r Coleg sef; Canser, Imiwnoleg, Haint a Llid, y Meddwl, yr Ymennydd a Niwrowyddoniaeth, Iechyd y boblogaeth a Biosystemau. Bydd y themâu ymchwil hyn yn ein galluogi i ddatblygu màs critigol a chydlyniad mewn ardaloedd lle mae gan Brifysgol Caerdydd y potensial i arwain y byd ac i adnabod a datblygu synergedd ymchwil.