Ewch i’r prif gynnwys

Rhyngwladol ac ymgysylltu

Mae Prifysgol Caerdydd yn brifysgol ryngwladol flaenllaw sy'n enwog yn fyd-eang am effaith ei hymchwil a'i chydweithrediadau eang.

Mae gan y Brifysgol gysylltiadau ffurfiol â thros 35 o wledydd, gan gynnwys 38 partneriaeth gyda Tsieina, 16 yn yr Unol Daleithiau a 12 gyda Malaysia. Rydym yn ymroi i rannu ein harbenigedd, gwybodaeth ac adnoddau i fynd i'r afael â rhai o heriau mwyaf ein hoes.

Ac iddi hanes hir o groesawu myfyrwyr o bob cwr o'r byd, mae gan Gaerdydd gymuned ffyniannus o fyfyrwyr rhyngwladol, gydag agos i 6,000 o fyfyrwyr yn hanu o fwy na 100 o wledydd.

Mae gan y Brifysgol dros 170,000 o gyn-fyfyrwyr sy'n dod o 170 o wledydd o bedwar ban byd. Mae ein graddedigion yn dychwelyd adref yn llysgenhadon ar ran Caerdydd, Cymru a'r Deyrnas Unedig. Maent yn chwarae rôl bwysig yn cryfhau cysylltiadau rhyngwladol.

Ochr yn ochr â hyn, rydym yn ymroi i alluogi ein myfyrwyr i astudio, gweithio neu wirfoddoli tramor yn ystod eu cyfnod gyda ni, gan dynnu eu sylw at gyfleoedd rhyngwladol, eu helpu i feithrin ymwybyddiaeth ddiwylliannol a gwella'u cyflogadwyedd.

Yng Nghymru mae Caerdydd yn rym gwirioneddol ar gyfer datblygiad economaidd yng Nghymru a'r DU. Mae'r Ysgol Busnes ar ei phen ei hun yn rhoi hwb sy'n werth tua £78miliwn i economi Cymru bob blwyddyn. Mae staff y Coleg yn meithrin cysylltiadau agos â'r gymuned leol ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau, gan weithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd, rhwydweithiau cymunedol ac awdurdodau lleol.