Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Mae'r Coleg  y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol yn cynnwys 10 Ysgol Academaidd gyda 1,100 o staff a 13,000 o fyfyrwyr.

O Fusnes i'r Gyfraith, ac o Gerddoriaeth i Newyddiaduraeth, mae gan y Coleg allu deallusol sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol. Mae'n ystyried y cwestiynau damcaniaethol ac ymarferol wrth astudio'r economi, gwleidyddiaeth a chymdeithas.

Mae'r Coleg yn cynnwys yr Ysgolion Academaidd canlynol:

Mae'r Coleg yn cynnig ystod eang o raglenni Israddedig ac Ôl-raddedig, ac mae myfyrwyr yn elwa o fynediad uniongyrchol at academyddion o'r radd flaenaf. Mae cyrsiau proffesiynol y Coleg yn helpu i roi'r sgiliau diweddaraf i weithwyr, a gall hyfforddiant pwrpasol gael ei deilwra i anghenion penodol sefydliadau.

Mae graddedigion y Coleg wedi sicrhau swyddi blaenllaw gyda sefydliadau blaenllaw o gwmpas y byd. Mae cyn fyfyrwyr y Coleg yn cynnwys Spencer Dale, Prif Economydd Banc Lloegr; Danny Blanchflower, Academydd a chyn aelod o'r Pwyllgor Polisi Ariannol ym Manc Lloegr; y Newyddiadurwyr Huw Edwards, Bill Turnbull ac Alex Thomson; sylfaenydd Moneysaving Expert, Martin Lewis, a'r Cyfansoddwr Karl Jenkins.