Cynhadledd Cemeg Caerdydd
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Rydym wedi penderfynu canslo'r y Cynhadledd Cemeg Caerdydd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Thomas Wirth yn wirtht@caerdydd.ac.uk. Yn anffodus, nid yw'r Brifysgol yn gallu eich ad-dalu ar gyfer costau teithio, gwesty neu gostau cysylltiedig.
Mae Cynhadledd Cemeg flynyddol Caerdydd bellach yn ei phedwaredd flwyddyn ar bymtheg, ac mae’n fforwm i wyddonwyr blaenllaw o bob cwr o’r byd gyflwyno canlyniadau eu hymchwil arloesol.
Arddangos y datblygiadau diweddaraf ym maes Cemeg
Bydd y darlithoedd yn cwmpasu sbectrwm llawn maes Cemeg yn ogystal â disgyblaethau gwyddonol eraill sy’n gorgyffwrdd ag e. Yn flaenorol, mae siaradwyr gwadd wedi cynnwys, Enillwyr Gwobrau Nobel a llu o wyddonwyr nodedig, sy’n adlewyrchu ansawdd rhagorol y siaradwyr sydd wedi cefnogi’r digwyddiad hwn. Rydym yn cynnal yr un safon eto eleni.
Ymhlith y siaradwyr gwadd i Gynhadledd Cemeg Caerdydd 2020, mae:
- Yr Athro Thorsten Bach (TU Munich, yr Almaen)
- Yr Athro James Henderson Naismith, FRS (Prifysgol Rhydychen)
- Yr Athro Ruth Signorell (ETH Zürich, y Swistir)
- Yr Athro David Wales, FRS (Prifysgol Caergrawnt)
- Yr Athro John Irvine (Prifysgol St Andrews)
Cynhelir Cynhadledd Cemeg Caerdydd ddydd Mercher 13 a dydd Iau 14 Mai 2020 yn Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd.
Yn ogystal â darlithoedd gan wyddonwyr amlwg o du allan i Brifysgol Caerdydd, mae’r gynhadledd hefyd yn cynnwys darlithoedd gan fyfyrwyr PhD ac ymchwilwyr ôl-ddoethurol o Ysgol Cemeg Caerdydd.
Mae fformat unigryw’r digwyddiad hwn yn galluogi gwyddonwyr ifanc sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd ym maes ymchwil i rannu’r un llwyfan â gwyddonwyr blaenllaw ym maes Cemeg. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle i rai o’n hymchwilwyr ifanc gorau o Ysgol Cemeg Caerdydd arddangos eu cyflawniadau ymchwil cyffrous i gynulleidfa fydd yn cynnwys arbenigwyr rhyngwladol yn eu meysydd.
Dyma restr o’r noddwyr ar gyfer Cynhadledd Cemeg Caerdydd 2020.