Ewch i’r prif gynnwys

Israddedig

Mae ein cyrsiau wedi eu dylunio i'ch galluogi chi i gyrraedd eich llawn botensial.

Rydym yn cyflawni hyn trwy gyfuno dysgu rhagorol, cyfleusterau a chefnogaeth sy'n dileu rhwystrau rhag dysgu. Mae cyrsiau wedi'u hymestyn dros ddau dymor ac yn dilyn dull modiwlaidd sy'n cynnwys elfennau o waith ymarferol, gweithdai a thiwtorialau.

Mae ein holl raglenni gradd israddedig yn achrededig drwy'r Gymdeithas Cemeg Frenhinol.

We combine excellent teaching, facilities and support to remove barriers from learning. Each course is spread over two semesters and follows a modular format which includes elements of practical work, workshops and tutorials.

Three students taking part in a lab experiment

Cyrsiau Cemeg BSc

Yn cynnig ystod eang o gemeg sy’n darparu’r sylfaen i ddilyn gyrfa mewn cemeg neu ddisgyblaeth perthynol.

Student in CDT Laboratory

Cyrsiau cemeg MChem

Yn cynnig gwybodaeth a phrofiad mwy trylwyr o’r pwnc ac yn anghenrheidiol ar gyfer dilyn gyrfa broffesiynol mewn Cemeg.

Am y ddwy flynedd gyntaf, ceir elfennau cyffredin rhwng deunydd a addysgir yn ein graddau MChem a BSc, sy'n cynnig y cyfle mwyaf i symud rhwng cynlluniau (yn amodol ar berfformiad academaidd).

Mae'r ddau gynllun yn cynnig y cyfle i weithio mewn diwydiant. Mae'r cynllun MChem yn ogystal yn cynnwys y cyfle i dreulio blwyddyn mewn labordy ymchwil mewn prifysgol dramor.

Dysgwch am ein cyrsiau is-raddedig gyda staff a myfyrwyr yr Ysgol yn y fideo Saesneg isod:

Ces i brofiad o weithio yn y diwydiant ei hun. Roedd hyn yn golygu pan wnes i gwblhau fy astudiaethau yng Nghaerdydd, doedd dim rhaid i fi fynd yn rhy bell i ddod o hyd i fy nghyflogaeth gyntaf.

Aaron Davies Cwrs Cemeg gyda phrofiad diwydiannol