Ewch i’r prif gynnwys

Cynnwys cleifion a'r cyhoedd

Involving People Presentation

Rydym yn gweithio'n agos gyda chyfranogwyr astudiaethau a'r cyhoedd er mwyn sicrhau bod ein hymyriadau mor effeithiol, diogel ac wedi'u cynllunio'n dda ag y gallant fod.

Heb gefnogaeth hael y cyhoedd, ni fyddai’r Ganolfan ar gyfer Ymchwil Treialon yn gallu gwneud y gwaith ymchwil effaith uchel y mae’n ei wneud. Mae'r Ganolfan yn hollol ddibynnol ar recriwtio a chadw aelodau brwdfrydig o'r cyhoedd sy'n dymuno cyfrannu i gymdeithas a chenedl fwy iach.

Mae hyn yn golygu nid yn unig rhoi’r holl gymorth sydd ei angen iddynt yn ystod astudiaethau a threialon, cynnwys cleifion yng nghynllun y treial lle bo hynny'n bosibl, ond y tawelwch meddwl sydd gan bob cyfranogwr ei fod yn cael ei warchod gan bolisïau gwarchod data ac ymdrin â data priodol.

Canolfan Cynnwys ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd

Wrth galon ein strategaeth i gynnwys y cyhoedd a chleifion mae Canolfan Cynnwys ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd y Ganolfan Ymchwil Treialon.

Tîm yw hwn sy'n cynnwys aelodau o'r cyhoedd ac ymchwilwyr. Mae'n ffurfio craidd ein hymrwymiad i gynnwys aelodau o'r cyhoedd a chleifion mewn ymchwil, ac mae'n annog ymgysylltu a lledaenu holl ganlyniadau'r astudiaeth mor glir, eang a thryloyw â phosibl.

PACE study Dissemination Event

Public Involvement and Engagement Hub

Our Public Involvement and Engagement Hub is a team including members of the public and researchers and is a central focus for our commitment to involve members of the public and patients in research, as well as transparency in dissemination of results.

Rhagor o wybodaeth

Physical Activity and Huntington's Disease

Ymgysylltu ag ymchwil

Rydym yn ceisio canfod ateb i'r problemau a achosir gan Glefyd Huntington drwy weithio gyda phobl sydd â’r clefyd, aelodau'r teulu, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.

Centre Staff Active in the Involving People Network

Gwneud ymchwil yn fwy perthnasol

Daeth yr ymyriad ar gyfer astudiaeth EDDY i ddatblygu ymgyrch ymwybyddiaeth ar gyfer canfod diabetes math 1 yn gynharach mewn plant yn uniongyrchol o gyfranogiad y cyhoedd.

Tron Participant Video

Profiad cyfranogwr uniongyrchol

Cyfranogwr yn siarad am ei phrofiadau yn ystod ein hastudiaeth ynglŷn â thriniaeth problemau niwrowybyddol mewn sglerosis cnapiog.