Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil ac effaith

Rydym yn ymchwilio i berthynas damcaniaethol a methodolegol rhwng y rhyngrwyd a gwleidyddiaeth fyd-eang.

Ein themâu ymchwil

Llywodraethu'r rhyngrwyd a pholisi digidol

Mae'r dadleuon ynghylch sut i lywodraethau seilwaith y rhyngrwyd, gweithredu normau a phrotocolau technegol yn dod yn fwyfwy canolog i drafodaethau rhyngwladol.

Rydym yn dilyn y datblygiadau hyn sy'n newid yn gyflym yn y dimensiwn newydd o lywodraethu byd-eang. Rhoddir sylw arbennig i'r rôl y chwaraeir gan geo-wleidyddiaeth ac anghydraddoldebau o ran pŵer mewn gwledydd ac actorion, gan gynnwys llywodraethau, sectorau preifat a sefydliadau cymdeithas sifil.

Y rhyngrwyd a diogelwch byd-eang

Rydym yn cefnogi gwaith ymchwil hanfodol i'r berthynas rhwng y rhyngrwyd a diogelwch byd-eang, yn enwedig ar bynciau sy'n dod i'r amlwg fel diogelwch seiber a rhyfela seiber.

Mae pynciau tebyg yn destun pryder i ni o ran ystyried diogelwch yn ehangach, gan gynnwys diogelwch dynol, cymdeithasol ac economaidd. Rydym yn hyrwyddo gwaith ymchwil sy'n craffu ar sut mae diogelu technolegau digidol yn herio hawliau preifatrwydd a rhyddid mynegiant.

Ar ben hynny, rydym yn dadansoddi sut y gellir defnyddio TGCh i reoli gwrthdaro, rhybuddio'n gynnar ac er dibenion cael heddwch ar ôl rhyfedd mewn achosion o wrthdaro cyfoes.

Y rhyngrwyd a hawliau dynol

Mae'r defnydd o dechnolegau digidol yn cynnig tystiolaeth am sut y gallant roi hwb i honiadau, gan amlygu sut y mae ardaloedd lleol yn ei chael hi'n anodd, a herio cyfundrefnau unbenaethol hyd yn oed. Ar yr un pryd, gall technolegau digidol wneud pobl yn agored i fygythiadau os yw normal, fframweithiau rheoleiddio a phrotocolau technegol yn cael eu defnyddio i hidlo cynnwys a monitro dinasyddion.

Rydym yn hyrwyddo gwaith ymchwil a thrafod sy'n mynd i'r afael â'r berthynas rhwng y rhyngrwyd a hawliau dynol, ac yn rhoi blaenoriaeth i'r hawl o gael preifatrwydd a rhyddid mynegiant yn fyd-eang.

Ein cyfres o lyfrau

Mae ein ffrydiau ymchwil yn ganolog i Digital Technologies and Global Politics, cyfres lyfrau Rowman & Littlefield, sy'n cael ei gysylltu'n ffurfiol â'r Ganolfan Gwleidyddiaeth Fyd-eang a’r Rhyngrwyd.   Mae'r gyfres, a gafodd ei lansio a'i golygu gan gyfarwyddwr y Ganolfan, Dr. Andrea Calderaro a'r dirprwy-gyfarwyddwr, Dr. Madeline Carr, yn lledaenu gwaith ymchwil amlddisgyblaethol ac arloesol yn y maes.