Ewch i’r prif gynnwys

Addysgu

Mae ein haelodau'n dysgu ar bob lefel o fewn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.

Israddedig

Rydym yn dysgu sawl modiwl ar lefel israddedig sy'n mynd i'r afael â sut y mae technolegau digidol yn cydweddu â'r ddisgyblaeth cysylltiadau rhyngwladol ehangach. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • seiberddiogelwch: diplomyddiaeth a hawliau digidol ym maes gwleidyddiaeth fyd-eang
  • technolegau digidol a gwleidyddiaeth fyd-eang
  • technolegau rhyfela.

Ôl-raddedig a addysgir

Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn cynnig amrywiaeth o raddau ôl-raddedig sy'n mynd i'r afael â gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol. Mae cyflwyniad i dechnoleg ddigidol a chysylltiadau rhyngwladol yn esiampl o fodiwl a ddysgir gan ein haelodau.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein haelodau'n tiwtora myfyrwyr PhD yn rheolaidd. Mae'r myfyrwyr yn frwdfrydig ac mae ganddynt angerdd tuag at wleidyddiaeth a pholisi'r rhyngrwyd. I gael rhagor o fanylion, gallwch ymweld â thudalen PhD Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yr Ysgol.